Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    5 diwrnod llawn

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs CompTIA CySA+ wedi'i ddylunio ar gyfer unigolion sy'n barod i fynd yn ddwfn i fyd seiberddiogelwch. Os ydych chi newydd ddechrau neu'n ystyried gyrfa ym maes seiberddiogelwch, mae'r cwrs hwn yn ddewis ardderchog. Yn achos gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio ym meysydd TG a rhwydweithio, gall y cwrs hwn ddarparu llwybr cyflym i seiberddiogelwch, gan roi'r wybodaeth a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i drosglwyddo i'r maes hwn yn gyflym ac yn llwyddiannus.

Fodd bynnag, os ydych chi'n hollol newydd i'r sector TG, rydyn ni'n cynghori dechrau gyda'r cyrsiau CompTIA A+, CompTIA Network+, a CompTIA Security+. Bydd y cymwysterau sylfaen hyn, ynghyd â rhywfaint o brofiad yn y diwydiant, yn eich paratoi'n well ar gyfer maes cymhleth seiberddiogelwch.

Mae'r buddion i unigolion sy'n caffael y sgiliau, y profiad a'r tystysgrifau mewn seiberddiogelwch yn sylweddol, gan ei wneud yn fuddsoddiad gwerth chweil.

Mewn byd cynyddol ddigidol, mae’r galw am Ddadansoddwyr Seiberddiogelwch yn cynyddu, a gallai tystysgrif CompTIA CySA+ fod yn docyn i’r maes cyffrous a llawn boddhad hwn sy’n tyfu’n gyflym.

https://www.e-careers.com/courses/comptia-cysa-certification-course-virtual-classroom

Gofynion mynediad

CompTIA Network+, CompTIA Security+ neu wybodaeth gyfatebol.

Isafswm o bedair blynedd o brofiad ymarferol fel dadansoddwr ymateb i ddigwyddiadau neu ddadansoddwr canolfan gweithrediadau diogelwch neu brofiad cyfatebol.

Cyflwyniad

Wedi'i gyflwyno ar-lein fel ystafell ddosbarth rithwir

Cyflwynir y cwrs hwn gan ein partner, eCareers

Asesiad

Arholiadau ar-lein swyddogol sy'n cael eu goruchwylio

Dilyniant

Mae'r cymhwyster CompTIA CySA+ yn agor drysau i ystod o swyddi ym maes Seiberddiogelwch.

Mae pob rôl yn cynnwys cyfrifoldebau unigryw ac mae'r cyflogau'n amrywio yn dibynnu ar brofiad ac arbenigedd.

Dyma rai swyddi posibl, o lefel mynediad i uwch swyddi, ynghyd â’u cyflogau cyfartalog yn y DU*:

  • Technegydd TG: Swydd lefel mynediad sy'n cynnwys tasgau cymorth TG sylfaenol. Cyflog cyfartalog: £20,000 i £30,000 y flwyddyn.
  • Dadansoddwr Seiberddiogelwch: Mae'r swydd hon yn cynnwys diogelu seilwaith TG trwy ddadansoddi a lliniaru bygythiadau. Cyflog cyfartalog: £30,000 i £50,000 y flwyddyn.
  • Dadansoddwr Diogelwch Gwybodaeth: Mae'r swydd hon yn ymwneud â chynllunio a gweithredu mesurau diogelwch. Cyflog cyfartalog: £35,000 i £55,000 y flwyddyn.
  • Arbenigwr Diogelwch Rhwydwaith: Mae'r swydd hon yn ymwneud ag amddiffyn rhwydwaith sefydliad rhag bygythiadau. Cyflog cyfartalog: £45,000 i £65,000 y flwyddyn.
  • Peiriannydd Seiberddiogelwch: Mae'r swydd hon yn cynnwys dylunio, gweithredu a rheoli systemau TG diogel. Cyflog cyfartalog: £50,000 i £80,000 y flwyddyn.
  • Rheolwr Seiberddiogelwch: Rôl arwain, yn goruchwylio strategaeth seiberddiogelwch a thîm seiberddiogelwch sefydliad. Cyflog cyfartalog: £60,000 i £100,000 y flwyddyn.
  • Prif Swyddog Diogelwch Gwybodaeth: Uwch swydd arweinyddiaeth, yn gyfrifol am ddiogelwch gwybodaeth a data sefydliad. Cyflog cyfartalog: £80,000 i £150,000 y flwyddyn.

*Ffynhonnell Payscale

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau