Diploma Lefel 6 CIM mewn Marchnata Proffesiynol a Digidol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Ar-lein
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Byddwch yn astudio pedwar modiwl i gwblhau'r cymhwyster hwn, dros gyfnod o flwyddyn academaidd (tri thymor).
Y modiwlau y byddwch yn eu hastudio yw:
Strategaeth a Chynllunio: Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth a sgiliau uwch i fyfyrwyr wrth gynllunio marchnata ar lefel strategol, yn ogystal â datblygu cynllun marchnata strategol cyffredinol. Byddwch yn gallu addasu eich defnydd o fframweithiau cynllunio a modelau cysylltiedig i greu ystod o gynlluniau penodol sy'n integreiddio i gyflawni a chefnogi'r cynllun hwnnw ar lefel strategol.
Effaith Gymdeithasol: Mae'r modiwl yn galluogi'r unigolyn i ystyried y cysyniadau allweddol sy'n rhan o gynaliadwyedd er mwyn deall yn well faint o newid y gall y sefydliad ei gyflawni a sut mae marchnata yn hwyluso'r newid hwn yn y tymor hir.
Optimeiddio Taith y Cwsmer: Mae'r cwrs hwn yn darparu fframwaith strategol i ddeall sut i werthuso'r camau yn nhaith y cwsmer a nodi dull sy'n seiliedig ar ddata i gyflawni teithiau wedi'u teilwra'n ddi-dor sy'n sicrhau boddhad cwsmeriaid ac yn annog eu teyrngarwch a'u hysgogi i rannu eu canmoliaeth. Bydd y cwrs yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o daith y cwsmer a'r methodolegau sy'n angenrheidiol i feithrin cysylltiadau ystyrlon â'u cynulleidfaoedd.
Strategaeth Cynnwys: Mae marchnata cynnwys yn hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â chwestiynau pwysig gan y gynulleidfa yn ogystal ag adeiladu ymddiriedaeth, datblygu perthnasoedd a gwella newid cysylltiadau'n drafodion busnes. Mae'r Dyfarniad Arbenigol hwn yn darparu dull strategol o farchnata cynnwys sy'n cyd-fynd â nodau corfforaethol a nodau marchnata ehangach. Byddwch yn meithrin sgiliau i alluogi creu strategaeth cynnwys effeithiol a rheoli ei gweithrediad, gan gynnwys darparu cynnwys priodol ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Cyflwynir y modiwlau hyn yn wythnosol, fel arfer ar fore Iau, am 8 i 10 wythnos y modiwl. Fe'u hasesir gan arholiad amlddewis ar-lein, ac eithrio'r modiwl Strategaeth a Chynllunio, sy'n cynnwys asesu cynllun marchnata ysgrifenedig hefyd, ochr yn ochr ag asesiad ar-lein.
Cynigir tri chyfle i ddechrau'r cwrs bob blwyddyn, ym mis Medi, mis Ionawr a mis Ebrill.
Diploma Lefel 6 CIM mewn Marchnata Proffesiynol a DigidolProffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Byddwch yn cwblhau pedwar modiwl (sydd hefyd yn gymwysterau Dyfarniad unigol) i ennill y cymhwyster hwn:
Strategaeth a Chynllunio
Effaith Gymdeithasol
Optimeiddio Taith y Cwsmer
Strategaeth Cynnwys
Bydd y cwrs hwn yn eich cynorthwyo i gymhwyso’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sy’n ofynnol i fod yn, a rhagori fel Rheolwr Marchnata.
Bydd hefyd yn meithrin y sgiliau a’r wybodaeth i’ch paratoi chi ar gyfer cyfleoedd lefel uchel, gan gryfhau eich llwybr gyrfa.
Byddwch yn datblygu’r hyder i ddangos eich gallu gyflawni yn y gweithle.
Gofynion mynediad
Mae angen un neu ragor o'r canlynol i gwblhau cymhwyster Lefel 6:
- Cymhwyster Lefel 4 CIM neu gymhwyster cyfatebol perthnasol.
- Prentisiaeth Lefel 4 mewn Marchnata
- Gradd Baglor neu radd Meistr, gyda thraean o'r credydau wedi'u seilio ar faes marchnata.
- Cynigir tri chyfle i ddechrau'r cwrs bob blwyddyn, ym mis Medi, mis Ionawr a mis Ebrill.Profiad proffesiynol (awgrymir dwy flynedd o brofiad marchnata mewn swydd weithredol).
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs trwy wersi ar-lein a arweinir gan diwtor. Byddwch yn cael mynediad i'r gwersi hyn trwy Google Meet.
Cewch eich annog i rannu syniadau ac i gymryd rhan mewn gwaith grŵp trwy sesiynau rhyngweithiol.
Asesiad
Asesir y cymhwyster hwn ar-lein trwy arholiad amlddewis (ac eithrio’r modiwl Strategaeth a Chynllunio, fel y nodwyd uchod). Cewch sefyll yr arholiadau gartref neu yn eich gweithle.
Mae'r asesiadau'n bodloni anghenion cyflogwyr, yn ymarferol, yn berthnasol ac yn addas i fusnesau.
Dilyniant
Bydd y cwrs hwn yn helpu'r rhai sydd â phrofiad marchnata i gael dyrchafiad i fod yn rheolwr marchnata.
Bydd yn eich helpu i sicrhau cyfleoedd gyrfa lefel uwch mewn sefydliadau.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol, Cyrsiau Byr
Lefel:
6
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Sefydliad dyfarnu: Chartered Institute of Marketing
Sefydliad dyfarnu
