Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gweinyddu Busnes - Diploma Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    12-18 mis

Cofrestrwch
×

Gweinyddu Busnes - Diploma Lefel 2

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n gweithio mewn amgylchedd Gweinyddu Busnes ac yn ymdrechu i ddarparu'r gefnogaeth weinyddol gorau bosibl, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd a chymhleth?

Ydych chi'n ceisio gwella eich perfformiad yn gyson er mwyn galluogi'r sefydliad i gynnal ei fantais gystadleuol?

Os ydych wedi ateb 'ydw' i'r cwestiynau uchod, yna gallai'r cwrs yma fod yn addas i chi.

Gofynion mynediad

  • Dylech fod yn gyflogedig mewn swydd weinyddol.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei lunio gyda chi a'ch rheolwr a bydd aseswr yn ymweld â chi yn rheolaidd yn y gweithle. Byddwch yn adeiladu portffolio o dystiolaeth i ddangos sut rydych yn bodloni'r Safonau Cenedlaethol yn eich gwaith bob dydd, a dangos eich bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol.

Asesiad

Byddwch yn darparu tystiolaeth i'ch aseswr o sefyllfaoedd gwaith rydych chi wedi delio â hwy. Gall hyn gynnwys: astudiaethau achos, cwestiynau ac atebion, trafodaethau, e-byst neu lythyrau i gefnogi eich tystiolaeth ysgrifenedig, a thystiolaeth tyst gan eich cydweithwyr neu reolwr llinell.

Bydd llyfrau gwaith a NVQ yn cael eu marcio gan asesydd yn y gweithle a'u safoni gan y dilysydd mewnol. Bydd Sgiliau Hanfodol yn cynnwys adeiladu portffolio ac arsylwadau.

Dilyniant

Ceir cyfleoedd gwych i symud ymlaen at gymhwyster uwch fel Diploma OCR mewn Gweinyddu Busnes - QCF Lefel 3.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

Ydy

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth