Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwallt Priodasol - clymu'r gwallt i fynyd mewn steil Boho

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Un diwrnod: 10am - 3pm

Cofrestrwch
×

Gwallt Priodasol - clymu'r gwallt i fynyd mewn steil Boho

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Dysgu sut i greu gwallt priodasol sy'n haeddu bod ar Instagram

Sawl gwaith mae rhywun yn dangos steil ar Instagram neu Pinterest mae pob priodferch yn breuddwydio amdano? Gadewch i ni eich helpu i greu'r steil priodasol perffaith mae pob priodferch yn gofyn amdano... Dysgwch sut i greu steil Boho a fydd yn para drwy'r dydd ond yn edrych mor ymlaciol a diymdrech. Yn ogystal ag arddangos sut i lunio nifer o steiliau y byddwch chi'n eu hailgreu wedyn, byddwch yn dysgu am y canlynol hefyd:

  • Sut i gynnal sesiwn treialu gwallt priodasol a sut i brisio hynny.
  • Gosod feliau a thiaras
  • Gweithio gydag estyniadau gwallt a phadin
  • Gosod ategolion
  • Mae sgiliau darllen rhwng y llinellau am yr hyn mae priodferch yn ei ddymuno, a sut i wneud i hynny ddigwydd, yn bwysig iawn

Gofynion mynediad

Gweithio ym maes trin gwallt a cholur.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs yn y salon yn Llangefni trwy gyfres o sesiynau arddangos. Yn dilyn pob sesiwn arddangos cewch amser i ail-greu’r edrychiad, gan ddefnyddio cynhyrchion a ddarperir ar y diwrnod. Bydd y tiwtoriaid wrth law i roi cymorth a chefnogaeth i chi, ac yn caniatáu i chi fynegi eich creadigrwydd.

Asesiad

Asesir yn ystod y cwrs.

Dilyniant

Rhagor o weithdai steiliau clymu gwallt i fyny.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch