Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lefel AS/A Ffiseg (Rhan-amser)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Cofrestrwch
×

Lefel AS/A Ffiseg (Rhan-amser)

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ar y cwrs hwn, cewch wella'ch dealltwriaeth o Ffiseg - y cysyniadau sylfaenol a'r goblygiadau ymarferol. Gall arwain at yrfa ym maes gwyddoniaeth, peirianneg, cyfrifiadureg ac mewn meysydd eraill. Bydd hefyd yn eich paratoi ar gyfer Addysg Uwch, ac mae'r sgiliau datrys problemau a ddefnyddir mewn Ffiseg yn werthfawr ym mhob disgyblaeth.

Mae hefyd yn bwnc gwerthfawr a diddorol yn ei rinwedd ei hun. Mae Ffiseg yn rhan greiddiol o Wyddoniaeth. Golyga astudio'r byd naturiol er mwyn canfod patrymau ymddygiad y gellir crynhoi rhai ohonynt mewn Deddfau Ffiseg syml.

Os ydych yn fyfyriwr ymroddedig, ac os cawsoch raddau da yn eich TGAU Ffiseg/Gwyddoniaeth a Mathemateg, mae'r cwrs hwn yn addas i chi. Bydd yn meithrin eich diddordeb yn y pwnc a'i gymwysiadau ehangach, gan alluogi i chi ragori.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd BB mewn Gwyddoniaeth (Dwyradd) neu TGAU gradd B mewn Ffiseg. TGAU gradd B mewn Mathemateg (Haen Uwch). Ni dderbynnir Gwyddoniaeth Gymhwysol TGAU / BTEC.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Ystyrir bod myfyrwyr yn bobl greadigol sy'n gwneud eu synnwyr eu hunain o ffenomenâu y dônt ar eu traws.

Mae'r cwrs yn cynnwys cymaint o ddysgu drwy brofiad ag sy'n bosib. Adlewyrchir hyn yn y gweithgareddau dysgu sy'n cynnwys:

  • gweithio mewn grwpiau
  • astudio'n annibynnol
  • adrodd
  • darllen
  • trafod
  • defnyddio cyfrifiaduron wrth wneud gwaith ymarferol
  • ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithiol)

Asesiad

Asesir y Lefel AS yn ystod y flwyddyn gyntaf ac asesir y Lefel A yn ystod yr ail flwyddyn.

  • AS: 2 arholiad ddiwedd Mai/dechrau Mehefin, ar ddiwedd y flwyddyn 1af (yn werth 40% o'r Lefel A gyfan); ac
  • A2: Arholiad Ymarferol, mis Mawrth yr ail flwyddyn, a 2 arholiad fis Mehefin yr ail flwyddyn (yn werth 60% o'r Lefel A gyfan).

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn rhoi gwerth mawr ar Lefel A mewn Ffiseg, yn enwedig y sgiliau rhesymu ar sgiliau ymarferol a feithrinir wrth astudior pwnc.

Gellir cyfuno Lefel A Ffiseg â phynciau lefel A eraill er mwyn arwain at ddewis eang o yrfaoedd, gan gynnwys gyrfaoedd yn ymwneud â rhifau megis Cyfrifeg, Pensaernïaeth, Busnes a Chartograffeg.

Mae hefyd yn bwnc manteisiol ar gyfer gyrfa ym maes Gwyddorau Ffisegol, Cemeg, neu Wyddorau Bywyd, gan gynnwys Meddygaeth a Milfeddygaeth. Mae gyrfa ym maes Awyrennau neu Feteoroleg hefyd yn bosibiliadau, yn ogystal â gyrfa ym maes Peirianneg, gan gynnwys Electroneg neu Gyfrifiadura.

Bydd eich astudiaethau ar y cwrs Lefel A yn help i chi ddewis yn ddoeth or dewisiadau sydd ar gael.

Gwybodaeth campws Llangefni

Ar y cwrs hwn byddwch yn datblygu dealltwriaeth eang o Ffiseg gan astudio gwaith arloeswyr yn amrywio o Newton i wyddonwyr gofod y presennol.

Blwyddyn 1 (AS):

Uned 1: Mudiant, Egni a Mater

Yn y modiwl hwn, byddwch yn adeiladu ar y gwaith a wnaethoch yn eich cwrs TGAU, gan astudio rhai o elfennau mwyaf sylfaenol Ffiseg. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i waith newydd fydd yn gwbl wahanol i'r hyn a astudiwyd ar gyfer TGAU, gan gynnwys astudio'r sêr a gronynnau ffiseg.

Uned 2: Trydan a Golau

Yn yr uned hon, byddwch yn astudio cylchedau trydanol a cherrynt trydanol ym myd natur. Yn ogystal, byddwch yn edrych ar nodweddion tonnau gan gynnwys tonnau goleuni, natur ddeuol a sut mae laserau yn gweithio.

Blwyddyn 2 (Uwch)

Uned 3: Osgiliadau a Niwclysau

Yn yr uned hon, byddwch yn astudio osgiliadau mwy cymhleth gan gynnwys osgiliadau mewn cylch ac osgiliadu. Byddwch hefyd yn astudio ffiseg niwclear gan gynnwys y dulliau o gynhyrchu ynni o niwclews.

Uned 4: Meysydd ac Opsiynau

Mae rhan greiddiol y modiwl hwn yn ymwneud â meysydd disgyrchiant, yn drydanol a magnetig. Bydd hyn yn cynnwys astudio orbitau'r planedau (astroffiseg). Ceir dewis o bedwar opsiwn ar gyfer astudio pellach:

  • Opsiwn A: Ceryntau Eiledol
  • Opsiwn B: Ffiseg Feddygol
  • Opsiwn C: Ffiseg Chwaraeon
  • Opsiwn D: Cynaliadwyedd a Chadwraeth

Uned 5: Arholiad Ymarferol

Yn yr arholiad hwn cewch eich asesu ar y sgiliau ymarferol rydych wedi'u dysgu yn ystod y pedair uned flaenorol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Lefel AS/A

Dwyieithog:

n/a

Lefel AS/A