Agored Cymru - Cadw Cyfrifon ar bapur
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
15 wythnos, 2 awr yr wythnos
Agored Cymru - Cadw Cyfrifon ar bapurCyrsiau Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cwrs rhan-amser sy'n rhoi'r cyfle i unigolion ddatblygu eu sgiliau cadw cyfrifon ymhellach. Bydd y cwrs hwn yn arwain ymlaen o waith ar fantolen brawf i gyflwyno datganiadau ariannol fel y Fantolen ac Elw a Cholled. Bydd y cwrs yn cynnwys trosolwg o'r adroddiadau ac yn egluro eu pwrpas.
- Ailedrych ar gadw cyfrifol - llyfrifo dwbl
- Asedau a Rhwymedigaethau
- Mantolen Brawf
- Masnachu, Cyfrifon Elw a Cholled
- Mantolenni
- Cyfalaf
- Yr hafaliad cyfrifo a chymarebau cyfrifo
Mae'r cymhwyster 'Agored' mewn Cyfrifydda yn gymhwyster cydnabyddedig, fe'i dysgir yn ystod oriau sydd yn hwylus i'r teulu mewn awyrgylch gyfeillgar.
Os oes gennych hawl i gonsesiwn, ffoniwch Goleg Abergele 01745 828 100 i drefnu taliad.
Gofynion mynediad
Mae'r cwrs hwn ar gyfer unigolion sydd wedi cwblhau cwrs Cadw Cyfrifon neu gwrs Cyfrifydda oedd yn cynnwys gwaith llyfrifo dwbl neu unigolion sydd â pheth dealltwriaeth o sgiliau Cyfrifydda
Mae lefel dda mewn Saesneg a Mathemateg yn ddymunol.
Cyflwyniad
Sesiynau yn y dosbarth
Asesiad
Cewch eich asesu drwy 2 asesiad OCN yn y dosbarth a phortffolio o'ch gwaith eich hun.
Dilyniant
Byddai modd i chi fynd yn eich blaen i astudio nifer o raglenni gyda Grŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Dwyieithog:
n/aBusnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: