Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Gofal Iechyd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    15 mis

Gwnewch gais
×

Agored Cymru Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Gofal Iechyd

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

  • Mae cymhwyster Diploma Lefel 3 Agored Cymru mewn Rheoli Gofal Iechyd wedi cael ei ddylunio i roi sylfaen safonol i’r holl staff anghlinigol a rhai staff clinigol eu sail sy’n ymwneud â darparu arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

  • I ymgymryd â’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gael eu cyflogi mewn rolau arwain/rheoli tîm mewn amgylchedd gofal iechyd. Pwrpas y cymhwyster yw darparu proses safoni ymarfer well yng Nghymru drwy sicrhau ansawdd allanol y maes gwaith hwn.

  • Dyma’r cymhwyster sy’n cael ei ffafrio ar gyfer GIG Cymru ar gyfer staff anghlinigol a rhai staff clinigol. Bydd disgwyl i holl staff anghlinigol sydd mewn rolau rheoli/arwain tîm gael cyfle i gwblhau'r cymhwyster a/neu i lwyddo i gyflawni elfennau ohono at ddibenion datblygiad proffesiynol parhaus i ategu newidiadau mewn ymarfer dros amser

  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed neu’n hŷn i ddilyn y cymhwyster hwn a rhaid iddyn nhw gael eu cyflogi mewn rolau arwain/rheoli tîm mewn amgylchedd gofal iechyd.

  • Mae’r cymhwyster hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg i ddechrau.


Gofynion mynediad

Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed neu’n hŷn i ddilyn y cymhwyster hwn a rhaid iddyn nhw gael eu cyflogi mewn rolau arwain/rheoli tîm mewn amgylchedd gofal iechyd.

Cyflwyniad

Seiliedig ar waith – defnyddio portffolio electronig a chyfarfodydd Teams.

Hybrid – defnyddio cyfarfodydd o bell ac arsylwadau wyneb yn wyneb.

Asesiad

Asesu trwy arsylwadau, trafodaethau, aseiniadau, holi ac ateb, cynnyrch gwaith.

Dilyniant

Diploma Lefel 4 ILM mewn Egwyddorion Arwain a Rheoli.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Dwyieithog:

Ydi.