Agored Cymru - Sgiliau Cadw Cyfrifon A Chyfrifydda Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
32 wythnos, 3 awr yr wythnos
Agored Cymru - Sgiliau Cadw Cyfrifon A Chyfrifydda Lefel 2Cyrsiau Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Anelwyd y cwrs hwn at rai sydd â diddordeb mewn astudio'r sgiliau ymarferol o gadw cyfrifon a chyfrifyddu ac sydd yn dymuno gwneud cais ar gyfer y swyddogaethau gwaith hyn. Bydd hefyd yn addas i rai sydd eisoes yn gweithio yn y swyddogaethau hyn ac sydd eisiau ennill mwy o brofiad ymarferol gydag ardystiad.
Cynhelir y cyrsiau yn ystod oriau sy'n gweddu i rai sy'n gofalu am blant, a dysgir cynnwys y cwrs mewn awyrgylch cyfeillgar, anffurfiol.
Os oes gennych yr hawl i gonsesiwn, ffoniwch Goleg Abergele ar 01745 828 100 i drefnu taliad.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond dylai unigolion:
- deall y termau cyffredinol a ddefnyddir ym maes cadw cyfrifon
- feddu ar rywfaint o brofiad mewn cadw cyfrifon
- feddu ar ddealltwriaeth ganolig o gyfrifiaduron
Cyflwyniad
Mae'n hyfforddiant ffurfiol sy'n defnyddio deunyddiau ymarferol i egluro ac yn dilyn llawlyfrau.
Cadw Cyfrifon Lefel 2
- Prosesu dogfennaeth busnes
- TAW
- Disgowntiau
- Arian Mân a Llyfr Arian Mân
- Taliadau a derbyniadau
- Cysoni Dyddlyfrau Arian a Chysoni â'r Banc
- Rheoli credyd a Drwgddyledion
- Llyfrifo dwbl a'r Llyfrau Cyfrifon
- Mantolen Brawf
- Deall adroddiadau ariannol
Asesiad
Cewch eich asesu drwy gwblhau portffolio o dystiolaeth ac mewn asesiadau dosbarth.
Dilyniant
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Cyfrifeg 'Agored'
- Rhaglen 'Sage Payroll' / Prosesu Cyflogau â llaw
- Cyfrifon Cyfrifiadurol Lefel 2/Lefel 3
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Dwyieithog:
n/aBusnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: