Profion Llif Unffordd (LFD) COVID-19
Mae symptomau llawer o bobl sydd â coronafeirws (Covid-19) yn ysgafn, ac nid yw rhai yn dangos unrhyw symptomau o gwbl (asymptomatig). Serch hynny, gallant dal ledaenu'r firws. Drwy brofi ein hunain yn rheolaidd gallwn arafu ei ledaeniad a helpu i warchod y bobl fwyaf bregus yn ein teuluoedd a'n cy
Diweddariad diwethaf: 4/3/22
Mae pecynnau profi gartref am Covid-19 sef Profion Llif Unffordd (LFD) nawr ar gael i bob dysgwr llawn amser/rhan-amser sylweddol/rheolaidd a phob dysgwr seiliedig ar waith sy'n dod i'r campws i astudio.
Darllenwch y cwestiynau a'r wybodaeth isod:
Oes rhaid i mi wneud y profion?
Mae'r profion yn wirfoddol, ond anogir dysgwyr a staff i fanteisio ar y cynnig.
Ble ydw i'n cael y pecyn profi?
Dewch i nôl pecyn o'ch adran/maes rhaglen/derbynfa.
Beth sydd yn y pecyn?
Bydd pob blwch yn cynnwys 7 pecyn prawf, a thaflen gyfarwyddiadau.
Ble ddylwn i wneud y profion?
Yn eich cartref.
Oes angen i mi brofi fy hun er fy mod i eisoes wedi cael Covid?
Os ydych wedi profi’n bositif am COVID-19 yn ddiweddar, dylech roi’r gorau i ddefnyddio LFT’s o Ddiwrnod 10 i Ddiwrnod 28. Ar ôl hyn, gallwch ddechrau defnyddio’r LFT’s eto.
Ble ydw i'n cofnodi fy nghanlyniadau?
Rhaid cofnodi canlyniadau pob prawf, pa un ai a ydyn nhw'n negyddol, positif (neu annilys), drwy'r porth canlyniadau ar-lein: www.gov.uk/report-covid19-result (Awgrymir eich bod hefyd yn cadw'ch cofnod eich hun o'ch profion/canlyniadau)
Wrth ba ganolfan/lleoliad ydw i'n cofnodi fy nghanlyniad ar y wefan?
Wrth gofnodi'ch canlyniadau ar wefan y GIG, 'enw neu god post yr ysgol neu'r coleg' yw: Grŵp Llandrillo Menai (LL28 4HZ).
Beth os yw'r canlyniad yn 'bositif'?
Os yw'r canlyniad LFT yn BOSITIF, rhaid i chi:
- Hysbysu tiwtor eich cwrs ar unwaith (erbyn 8am fan bellaf).
- Cadarnhau eich canlyniad positif drwy drefnu prawf PCR mewn canolfan brofi cyn gynted â phosibl.
- Yn y cyfamser, rhaid i bawb sy'n byw yn eich cartref ac sydd yn eich grŵp cyswllt yn y coleg ddilyn y canllawiau ar hunanynysu tra ydych yn aros am ganlyniad eich prawf PCR
Byddwch yn ofalus iawn wrth gofnodi canlyniad eich prawf ar y wefan oherwydd gallai cofnodi 'positif' mewn camgymeriad olygu eich bod yn gorfod hunanynysu er eich bod wedi gwneud camgymeriad. Yna bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â chi.
Beth os yw'r canlyniad yn 'negyddol'?
Os yw'r canlyniad yn NEGYDDOL bydd angen i chi gofnodi hyn ar y porth canlyniadau ar-lein, ond ni fydd angen cymryd unrhyw gamau pellach a gallwch barhau â'ch diwrnod yn ôl yr arfer.
Roedd fy mhrawf yn negyddol ond mae gen i rai o symptomau Covid?
Os oes gennych rai o symptomau Covid, peidiwch â dibynnu ar brawf llif unffordd cartref, hyd yn oed os yw'r canlyniad yn 'negyddol'. Arhoswch adref, ac archebwch brawf PCR mewn canolfan brofi ar unwaith.
Ceir canllawiau pellach ar sut i wneud y prawf a dogfennau perthnasol eraill isod: