Dechrau fis Medi 2025
Gwybodaeth a chwestiynau cyffredin
Rydw i'n dilyn cwrs newydd yn y coleg ym mis Medi. Sut mae gwneud cais am le?
Mae dau gam syml dylai ymgeiswyr sydd wedi derbyn cynnig i astudio yn y coleg gofrestru ar eu rhaglen eu dilyn er mwyn cofrestru ar eu rhaglen.
Cam 1 - Digwyddiadau Sicrhau eich Lle: Dydd Iau 21 Awst a dydd Gwener 22 Awst
Mae cofrestru yn y coleg yn ddibynnol ar gwrdd â gofynion mynediad y cwrs. Os ydych yn ddisgybl ysgol, unwaith y byddwch wedi derbyn canlyniadau eich arholiadau TGAU, dewch draw i'r coleg unrhyw bryd rhwng 10am a 4pm ar y naill ddiwrnod neu'r llall i sicrhau eich lle ar y cwrs rydych wedi ei ddewis.
Rhaid i ddysgwyr sydd wedi astudio yn y coleg yn y gorffennol ac sy'n dechrau ar raglen newydd, sicrhau eu lle hefyd.
Cam 2 - Cynefino: Dydd Iau 28 Awst a dydd Gwener 29 Awst
Cynhelir y sesiynau cynefino ddydd Iau 28 Awst a dydd Gwener 29 Awst i bob myfyriwr sy'n dilyn rhaglen newydd yn y Coleg. Yn ystod y cyfnod cynefino bydd dysgwyr yn cwrdd â'u tiwtoriaid, yn derbyn manylion am eu cwrs ynghyd â'r amserlen.
Bydd staff yn cysylltu â dysgwyr sy'n astudio rhaglenni Sgiliau Byw'n Annibynnol i roi gwybod pa ddiwrnod i ddod i'r coleg.
Pryd bydd dysgwyr yr ail flwyddyn yn dychwelyd i'r Coleg?
Bydd pob dysgwr sydd yn mynd i ail flwyddyn eu rhaglen e.e UG i A2, Tystysgrif Diploma yn derbyn gwybodaeth ar yr union ddyddiad cychwyn yn ystod yr wythnos sy'n dechrau dydd Llun 1 Medi 2025.
Byddwn yn anfon yr wybodaeth at eich cyfrif e-bost coleg.
Os nad ydych wedi derbyn ebost, cysylltwch gydag un ai eich tiwtor personol neu generalenquiries@gllm.ac.uk.
Wnes i ddim ennill y graddau disgwyliedig, alla i ddal dod i'r Coleg?
Mae'n bwysig nad ydych yn poeni. Os na lwyddoch chi i ennill y graddau disgwyliedig, rydym yma i'ch cynorthwyo. Dewch i'r Coleg, cewch siarad â thiwtoriaid a staff gyrfaoedd arbenigol a fydd yn gallu cynnig gwybodaeth a chyngor am gyrsiau a llwybr gyrfa sy'n gweddu orau i chi.
Heb wneud cais eto?
Os nad ydych wedi cwblhau cais ar-lein drwy wefan y coleg peidiwch â phoeni, dydy hi ddim yn rhy hwyr, gallwch wneud hynny rŵan.
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau ewch i dudalen gwe gwneud cais rŵan.
Pryd bydd cludiant coleg yn dechrau?
Bydd cludiant coleg yn dechrau dilyn yr amserlen o ddydd Iau 29 Awst, 2025.
Ar gyfer amseroedd penodol y coleg a lleoliadau casglu myfyrwyr, ewch i dudalennau Cludiant y Coleg:
Beth ddylwn i ddod gyda mi?
Y diwrnod cynefino ydy'ch diwrnod cyntaf yn y coleg, felly mae'n bwysig eich bod yn paratoi. Gwnewch yn siŵr bod gennych feiro, papur neu liniadur i gymryd nodiadau. Gofynnir i bob myfyriwr dalu ffi adnoddau £25. Gellir talu hyn gydag arian parod, siec neu gerdyn. Peidiwch ag anghofio dod â phecyn bwyd gyda chi neu arian i brynu bwyd yn y caffi.
Cewch wybodaeth am ba ddarnau o offer penodol, cit, gwisg a dillad y byddwch chi eu hangen ar gyfer eich cwrs yn ystod y cyfnod Cynefino.
Fydd modd i mi gael rhagor o gefnogaeth i setlo yn y coleg a chefnogaeth gyda fy ngwaith cwrs?
Mae gan ddysgwyr fynediad at dîm o staff cefnogi proffesiynol a phrofiadol sy'n gweithio ochr yn ochr â chi a'ch tiwtoriaid. Siaradwch â'ch tiwtor yn ystod y cyfnod Cynefino neu galwch heibio'r adran Gwasanaethau i Ddysgwyr ac mi wnawn ni drafod pa gefnogaeth sy'n gweddu orau i chi.
Pa fath o gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr coleg?
Mae'r Gronfa Cefnogi Dysgwyr (LFS) yn darparu cymorth ariannol tuag at gostau sy'n gysylltiedig â dilyn cwrs ôl 16 e.e. gwisg, offer cwrs, gofal plant, rhai teithiau ac ati.
Ceir rhagor o fanylion ar ein tudalen cymorth ariannol a chewch gyfle i lenwi’r ffurflenni cais yn ystod eich cyfnod cynefino.
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysgu (LCA/EMA) ar gael i fyfyrwyr llawn amser rhwng 16 a 18 oed sy'n dilyn cwrs addysg bellach ac mae Grant Dysgu Addysg Bellach Llywodraeth Cymru ar gael i ddysgwyr sy'n 19 oed neu'n hŷn na hynny. Rhaid bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am gyllid mor fuan â phosib er mwyn derbyn eich grant. Cliciwch yma i weld ydych chi’n gymwys ac i lenwi’r ffurflenni cais.
Oes prydau bwyd am ddim ar gael yn y coleg?
Mae pob dysgwr o dan 19 oed ar 30 Awst 2025 ac a oedd yn derbyn prydau bwyd am ddim yn ystod eu blwyddyn olaf yn yr ysgol yn gymwys i dderbyn lwfans pryd bwyd bob dydd. Fe'i telir yn uniongyrchol i'r dysgwyr. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais cysylltwch â: finance@gllm.ac.uk