Digwyddiadau Agored - Dysgu Oedolion a Chymunedol
Os ydych chi awydd cael dechrau newydd, datblygu eich sgiliau neu gyfarfod ffrindiau newydd a chael hwyl, mae gennym gyrsiau at ddant pawb!
Mae ein digwyddiadau agored yn gyfle i gyfarfod â'r tiwtoriaid ac i ddod i wybod rhagor am addysg oedolion a'r dewis eang o gyrsiau sydd ar gael yn y gymuned. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Celf a Dylunio
- Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol
- Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)
- Saesneg a Mathemateg
- Sgiliau Bywyd
- Sgiliau Gwaith
Beth bynnag yw’ch nod, mae timau cyfeillgar y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar gael i’ch helpu i wneud eich dewisiadau.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r fersiynau diweddaraf o'n Prosbectysau Rhan-amser oddi ar ein gwefan, neu glicio yma i weld ein prosbectws ar-lein.
Dyddiadau
Coleg Menai:
- Campws Bangor: Dydd Mercher 6 Medi, 10am-2pm
- Campws Caernarfon: Dydd Llun 11 to Dydd Iau 14 Medi, 10am-2pm
- Campws Holyhead: Dydd Llun 11 to Dydd Iau 14 Medi, 10am-2pm