Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Swyddog Trosglwyddo Iechyd Meddwl a Lles, Cyfnod penodol hyd at 30 Mehefin 2026

Pwrpas y swydd - Swydd weinyddol newydd a chyffrous am gyfnod penodol yw hon yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Lles Gwasanaethau i Ddysgwyr (diogelu), Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, y Cydlynwyr Cymorth Dysgu, Lles Ysgolion, Cynhwysiant Staff a Dysgu Seiliedig ar Waith, yn ogystal â Meddygon Teulu, y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc (CAMHS) a'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion, i sicrhau bod dysgwyr ag anghenion iechyd meddwl ac/neu anghenion diogelu'n trosglwyddo'n ddidrafferth i'r coleg o ysgolion a lleoliadau eraill a'u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Rhoddir ystyriaeth i Secondiad

Manylion Swydd

Cyfeirnod y Swydd

AS/075/25

Cyflog

£32,192.24 - £34,347.66 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith

  • Bangor
  • Llandrillo-yn-Rhos
  • Lleoliad gwaith i'w drafod

Hawl gwyliau

  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio

37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb

Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau

27 Tach 2025
12:00 YH (Ganol dydd)

Sut i wneud cais

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.

  1. Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
  2. Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
    Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw.
  3. Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
  4. Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.

Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.

Lawrlwytho'r Ffurflen Gais pdf

Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.

Swyddi eraill

Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.

Hysbysfwrdd Swyddi Cyflogwyr

Achrediadau Cyflogaeth

Logo Cyflogwr Hyderus o ran  Anabledd
Logo Leaders in diversity

Datganiad Gwrth-hiliaeth

Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.

Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. ⁠Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.

Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. ⁠Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.

Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)

  • Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
  • Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
  • Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
  • Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
  • Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
  • Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.

Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.

I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date