Darlithydd Peirianneg 0.3910
Mae Adran Adeiladwaith a Pheirianneg Coleg Meirion- Dwyfor yn adran flaengar sy’n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern. O fewn yr adran, mae gennym ddau safle; Hafan (Pwllheli) a CaMDA (Dolgellau), sydd ill dau yn darparu cymwysterau Peirianneg.
Rydym yn chwilio am aelod o staff rhan amser parhaol (cyfwerth â dau ddiwrnod yr wythnos) i ymuno ag ochr Beirianneg yr adran; a rydym yn barod i gyflogi unigolyn brwdfrydig sydd â phrofiad mewn meysydd cysylltiedig â Pheirianneg Cyffredinol ac Weldio a Ffabrigio Metel. Ar hyn o bryd mae gennym ni ddarlithwyr peirianneg fecanyddol, peirianneg cynhyrchu, peiriannu a weldio rhagorol, a rydym yn edrych am aelod o staff fydd yn ategu at hyn. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu a rhoi cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy’n hyrwyddo llwyddiant. Hoffem weithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau i gynnig y profiad gorau i ddysgwyr, ac i helpu i symud yr adran yn ei blaen.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i’n dysgwyr.
3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â’r gefnogaeth a roddir i’r dysgwyr.
4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau’r Grŵp yn cael ei dilyn.
5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/120/26
Cyflog
£13,166 - £20,351 y flwyddyn, yn ddibynnol ar brofiad a chymwysterau
Lleoliad Gwaith
- Dolgellau
Hawl gwyliau
● 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol
● Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.
● Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.
● Bydd contractau rhan amser yn derbyn hawl pro rata i'r uchod.
Patrwm gweithio
14.5 awr yr wythnos
327 awr o amser addysgu blynyddol – 9.5 i 10.5 awr yr wythnos.
Hyd at 2 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle gyda chytundeb y rheolwr.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
05 Chwef 2026
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.
Achrediadau Cyflogaeth
Datganiad Gwrth-hiliaeth
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.
Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)
- Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
- Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
- Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
- Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
- Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
- Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.
Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.
I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk