Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diogelu ac Atal

Dysgwch fwy am Ddiogelu ac Atal

Ein Gwerthoedd

Ein nod yw sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cael eu trin â pharch a'n bod yn eu harfogi â'r sgiliau a'r rhinweddau i lwyddo mewn bywyd.

Disgwyliwn i'r holl ddysgwyr a staff barchu gwerthoedd y Grŵp trwy sicrhau ein bod yn deall ac yn dathlu ein hamrywiaeth, gan herio unrhyw ragfarnau, bwlio neu aflonyddu.

Gwerthoedd Prydeinig

Mae Gwerthoedd Prydeinig Sylfaenol yn greiddiol i’r hyn yw bod yn ddinesydd mewn Prydain Fawr fodern ac amrywiol gan werthfawrogi ein cymuned a dathlu amrywiaeth y DU. Y gwerthoedd hyn yw:

  • Democratiaeth
  • Rheolaeth y Gyfraith
  • Parch a Goddefgarwch
  • Rhyddid yr Unigolyn

Diogelu

Diogelu yw’r camau a gymerwn i hyrwyddo lles ein dysgwyr a’u hamddiffyn rhag niwed.

Mae niwed yn golygu unrhyw beth sy'n digwydd i ddysgwyr sy'n eu rhoi mewn perygl. Mae hyn yn cynnwys risg o gam-drin a/neu esgeulustod seicolegol, corfforol, rhywiol neu ariannol. Mae’n cynnwys meithrin perthynas amhriodol, ymosodiad corfforol a chael eich gorfodi i wneud rhywbeth nad ydych chi eisiau ei wneud. Gall gynnwys bwlio. Gallai ddigwydd yn y cartref, yn y coleg/ar gwrs, yn y gweithle, gyda ffrindiau, ar-lein, yn y stryd; unrhyw le.

Mae gennym weithdrefnau ar waith i gefnogi ein dysgwyr;

  • yr hyn rydyn ni'n ei wneud os ydyn ni'n meddwl bod dysgwyr yn cael eu niweidio (neu'n debygol o gael eu niweidio).
  • yr hyn ddylid ei wneud os yw dysgwr yn meddwl bod rhywun arall yn cael ei niweidio.
  • yr hyn rydyn ni'n ei wneud os ydyn ni'n meddwl bod dysgwr ar fin niweidio rhywun arall.
  • yr hyn sydd angen i ni ei wneud i gadw dysgwyr ac eraill yn ddiogel.

Prevent

Mae Prevent yn ymwneud â diogelu pobl a chymunedau rhag bygythiad terfysgaeth. Mae Prevent yn rhan o CONTEST, sef strategaeth wrthderfysgaeth y Llywodraeth. Prif fwriad Prevent yw atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth ac eithafiaeth dreisgar. Wrth wraidd Prevent mae diogelu plant ac oedolion a darparu ymyrraeth gynnar i amddiffyn a dargyfeirio pobl rhag cael eu denu i weithgarwch terfysgol.

Beth i'w wneud os hoffech help neu os oes gennych bryderon

Os ydych am drafod unrhyw bryder ynghylch diogelu yn y coleg, gallwch:

  • Siarad â'ch tiwtor personol

  • Ymweld â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr, neu

  • anfon neges e-bost i diogelu@gllm.ac.uk

Os ydych chi'n ddysgwr seiliedig ar waith gyda darparwr hyfforddiant gwahanol, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol.

Os ydych o dan 18 oed a’ch bod mewn perygl o niwed sylweddol, neu os ydych yn adnabod rhywun dan 18 oed sydd mewn perygl o niwed sylweddol, a’ch bod yn trafod hyn ag aelod o staff, mae gan yr aelod hwnnw o staff ddyletswydd i roi gwybod i Swyddog Diogelu am hyn. Yna, bydd y Swyddog Diogelu'n penderfynu ar y camau gorau i'w cymryd er mwyn sicrhau eich bod chi neu’r person rydych yn ei adnabod yn ddiogel. Ceir gwybodaeth yn ein polisi am yr hyn a wnawn pan fydd gennym