Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwasanaethau Dysgwr

Eich gwasanaethau yn y coleg

Fedrwn ni eich helpu chi?

Os hoffech ragor o wybodaeth, gyngor neu arweiniad am unrhyw un o wasanaethau’r coleg, cysylltwch â’ch tiwtor personol neu galwch heibio adran Gwasanaethau i Ddysgwyr.

Rydym ni yma i’ch helpu chi.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r daflen Gwasanaethau Dysgwyr ar ffurf PDF.

Lwfans Cynnal a Chadw Addysg (EMA)

Gwyliwch y fideo yma am ragor o fanylion am sut i gael ymediad at EMA.

Cyllid Addysg Bellach

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru: AB

Mae’r grant yn darparu arian i helpu talu costau eich addysg os ydych yn 19 mlwydd oed neu’n hŷn. Os ydych yn astudio cwrs amser llawn, gallech gael taliadau gwerth hyd at £1,500 y flwyddyn, neu os ydych yn astudio cwrs rhan-amser, gallech gael hyd at £750 y flwyddyn.

Y Gronfa Cefnogi Dysgu (LSF)

Gall y Gronfa Cefnogi Dysgu helpu tuag at talu am offer hanfodol, PPE a'r costau sy'n gysylltiedig â'ch cwrs. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i dderbyn grant i helpu i dalu tuag at gostau gwiriadau DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB gynt), ymweliadau addysgol, trafnidiaeth a gofal plant.

Os ydych rhwng 16 a 18 oed, wedi derbyn Prydau Ysgol Am Ddim o'r blaen a bod eich cartref yn derbyn Credyd Cynhwysol byddwch yn gymwys i dderbyn hyd at uchafswm o £ 19.50 yr wythnos tuag at brynu cinio tra yn y coleg.

Mae gennym hefyd grant i helpu i brynu offer TGCh sy'n hanfodol ar gyfer eich cwrs.

Ewch i'r dudalen cymorth ariannol er mwyn gwneud cais am gefnogaeth ariannol.

Defnyddiwch eich manylion mewngofnodi a chyfrinair rhwydwaith y coleg wrth gwblhau eich cais am gymorth ariannol. Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi eich manylion mewngofnodi a chyfrinair rhwydwaith y coleg i chi.

Cyflwyniad gan Reolwyr Gwasanaethau Dysgwr Coleg Llandrillo

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu mwy am les yng Ngholeg Llandrillo.

Cyflwyniad gan Reolwyr Gwasanaethau Dysgwr Coleg Menai a Meirion-Dwyfor

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu mwy am les yng Ngholeg Menai a Choleg Meirion Dwyfor.

Helen Jones - Cynghorydd Gwasanaethau Dysgwyr

Mae isdeitlau Saesneg yn y fideo yma.