Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Arolwg 'Dwi'n iawn'

Un o’r dulliau gweithredu fel rhan o Strategaeth Lles Grŵp Llandrillo Menai, sy’n edrych ar y ffordd orau y gallwn gefnogi eich lles tra byddwch yn astudio gyda ni.

Arolwg ‘Dwi'n iawn’

Mae eich lles emosiynol, cymdeithasol a chorfforol yn effeithio ar eich iechyd. Er mwyn i chi deimlo'n iawn mae'n bwysig eich bod chi'n teimlo'n dda (e.e. teimladau o hapusrwydd, bodlonrwydd, mwynhad, chwilfrydedd, ymgysylltu) a gweithredu'n dda (profi perthnasoedd cadarnhaol, cael rhywfaint o reolaeth dros fywyd rhywun, bod â synnwyr o bwrpas).

Mae'r arolwg yn gofyn 15 cwestiwn ynghylch sut rydych chi'n teimlo am eich lles, ac mae'n cynnwys tri maes: lles emosiynol, cymdeithasol a chorfforol.

Cynllun Lles Personol

Ar ôl i chi gwblhau'r arolwg, bydd Cynllun Lles wedi'i bersonoli yn cael ei gynhyrchu ar unwaith. Bydd y Cynllun Lles yn cynnig rhai awgrymiadau hunanofal ar sut y gallwch edrych ar ôl eich hun mewn ffordd iach neu gynnig awgrymiadau ar ble y gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth.

Byddwn yn cynnal yr arolwg dair gwaith y flwyddyn i weld a yw'ch teimladau'n newid yn ystod yr amser hwn ac i weld a yw'ch lles yn gwella.

Bydd rhai o'ch ymatebion yn cael eu plotio ar Seren Lles, felly pan fyddwch chi'n ail-gymryd yr arolwg yn ddiweddarach yn y flwyddyn, byddwch chi'n gallu gweld y cynnydd rydych chi wedi'i wneud.

Gellir dod o hyd i'r arolwg "Dwi'n iawn" ar 'eDrac Dysgwr'. Wedi i chi fewngofnodi, fe welwch faner "Dwi'n iawn" ar y dudalen gartref. Cliciwch ar y faner i ddechrau'r arolwg.

Gwyliwch y fideo hwn i ddarganfod mwy.