Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Teaching assistant apprentice

Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.

Ysgol y Moelwyn yw ysgol gymysg fach ar gyfer disgyblion 11–16 oed. Mae wedi’i lleoli ar gyrion y dref arbennig o Flaenau

Ffestiniog ac yn ysgol sy’n gofalu am ei disgyblion ac sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn y gymuned. Mae pob plentyn yn

bwysig ac yn cael pob cyfle i ddatblygu ac ehangu ei dalentau.


PWRPAS SWYDD

  • Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.
  • Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
  • Cynorthwyo’r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.


Cefnogaeth i Ddisgyblion

Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion arbennig, gan sicrhau

eu diogelwch a’u mynediad i weithgareddau dysgu.

Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni

Gofal Personol– yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.

Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau a pholisiau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.

Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.

Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.

Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.

Dan arweiniad yr athro/awes, darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.

Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunan-hyder.

Darparu adborth effeithlon i’r disgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad.


Sut i wneud cais

Drwy'r ddolen wefan a ddarperir


Manylion Swydd

Lleoliad

Blaenau Ffestiniog

Sir

Gwynedd

categori

Prentisiaethau

Sector

Arbenigol/Arall - Specialist / Other

Gwefan

https://achievemoretraining.com/vacancies-main/vacancies/item/ysgol-moelwyn-prentis-cefnogaeth-tgch

Dyddiad cau

01.12.25

Logo Ariennir gan Lywordaeth Cymru

Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.


Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?

Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?

Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.

Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:

  • Prentisiaethau
  • Swyddi llawn amser
  • Swyddi rhan-amser
  • Contractau cyfnod penodol

I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk

Ffurflen Hysbysfwrdd Swyddi

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date