Digwyddiad Gwybodaeth a Chofrestru
Os nad wyt ti wedi gwneud cais i astudio gyda ni eto, byddwn yn cynnal digwyddiadau galw heibio i rannu gwybodaeth a chofrestru, lle cei ddysgu rhagor am sut i astudio efo ni ym mis Medi.
P'un ai wyt ti'n dod yn syth o'r ysgol, neu'n ddysgwr sy'n oedolyn sy'n awyddus i ddychwelyd i fyd addysg, bydd ein timau cyfeillgar ar gael i dy gefnogi i ddod o hyd i'r cwrs cywir a gwneud cais.
Bydd ein tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am gyllid myfyrwyr, cludiant neu lesiant.