Cyflwyniad i'r Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod ac Addysg
Ydych chi'n gweithio gyda phlant, neu'n awyddus i wneud hynny, ac am ddatblygu'ch sgiliau a'ch gwybodaeth? A allai gradd mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod fod o gymorth i roi hwb i'ch gyrfa?
Mae'r Radd Sylfaen hon yn addas i'r sawl sy'n gweithio neu sydd eisiau gweithio gyda phlant mewn amrywiaeth eang o swyddi. Mae'r rhaglen yn arbennig o addas i'r oedolion hynny sydd ar hyn o bryd yn gweithio neu'n bwriadu gweithio mewn lleoliad blynyddoedd cynnar neu gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 1, 2 neu 3 mewn ysgolion lleol.
Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio yn y Ganolfan Brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ddydd Mawrth 26 Awst am 4pm.
Cewch wybod rhagor am y cwrs, y dewisiadau dilyniant sydd ar gael a'r profiad o ddilyn cwrs gradd yn y coleg, gan gynnwys y gwahanol fathau o gymorth ariannol sydd ar gael.