Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru
Llwyfan am bedwar diwrnod i gogyddion o safon ryngwladol Gwledydd Prydain a gweddill y byd yw Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru sy'n digwydd bob Chwefror.
Fe'u cynhelir ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos rhwng 21-23 February 2023. Pwrpas y pencampwriaethau yw dathlu sgiliau coginio ac amrywiaeth amheuthun bwydydd cenhedloedd Prydain. Mae'n achlysur poblogaidd ac yn orlawn o gystadlaethau cyffrous i brentis gogyddion, cogyddion iau, uwch-gogyddion a staff gweini.
Ymysg y cystadlaethau atyniadol eraill, bydd Rownd Derfynol Cogydd Iau Cymru a gornest Cogydd Cenedlaethol Cymru.
