Hanfodion Dwdlio Zen
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 awr yr wythnos am 10 wythnos
Hanfodion Dwdlio ZenPotensial (Dysgu Gydol Oes)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi'n chwilio am ddiddordeb newydd?
Beth am roi cynnig ar Ddwldio Zen?
Does dim angen sgiliau darlunio na sgiliau creadigol arnoch - dim ond parodrwydd i gael eich ysbrydoli.
Mae'r cwrs hwn yn eich cyflwyno i hanfodion Dwdlio Zen. Ffordd hwyliog a hawdd i'w dysgu o greu delweddau hardd ar sail patrymau strwythuredig.
Mae dwdlio yn eich helpu i ganolbwyntio drwy greu dim ond digon o symbyliad i atal eich ymennydd rhag "cysgu". Mae'n aml yn cael ei ddefnyddio fel techneg meddylgarwch ac mae'n tawelu'r meddwl.
Mae iddo fanteision lu:
- lleihau straen
- gwella ffocws
- ffordd o fyfyrio
- rhoi rhyddhad emosiynol
- ysgogi creadigrwydd
- datrys problemau
- annog gwytnwch
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Dim angen dod i gyfweliad.
Cyflwyniad
Dysgu yn y dosbarth
Asesiad
Portffolio o waith.
Dilyniant
Gwella eich Sgiliau Dwdlio Zen
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
- Cyrsiau Hamdden
Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
Cyrsiau Hamdden
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: