Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gweithio yn y GIG fel Gweinyddwr Meddygol Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 awr yr wythnos am 20 wythnos - £180

Cofrestrwch
×

Gweithio yn y GIG fel Gweinyddwr Meddygol Lefel 2

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y cwrs hwn yw galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o drefn Gwasanaeth Iechyd Cymru a'i chyrff statudol ynghyd â sut mae deddfwriaeth yn berthnasol i'r gwasanaeth iechyd. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o hawliau cleifion, sut maen nhw'n cael eu hamddiffyn a sut mae rôl gweinyddwr meddygol yn hanfodol i gynnal yr amddiffyn.

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn eich arfogi â sgiliau pwysig ar gyfer meddygol mewn gwaith gweinyddu meddygol. Gall eich cynorthwyo i lwyddo mewn rôl weinyddol o unrhyw fath mewn sefydliad Gwasanaeth Iechyd Gwladol o unrhyw faint yn cynnwys: Ysgrifennydd, Derbynnydd, Gweinyddwr, Cynorthwyydd Personol, Clerc Cofnodion Meddygol a Chlerc Ward.

Gofynion mynediad

Ystyrir defnydd da o iaith (Saesneg) yn fanteisiol gyda chanolbwyntio arbennig ar gywirdeb wrth sillafu.

Cyflwyniad

Sesiynau addysgu gan ddefnyddio trafodaethau, ymarferion/gweithgareddau ymarferol, taflenni gwaith, asesiadau, cyfarwyddiadau uniongyrchol, sesiynau darlithio, fideos a dulliau dysgu eraill

Bydd gwaith cartref a dysgu annibynnol yn rhan annatod o'r cwrs.

Asesiad

Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol; portffolio o dystiolaeth; Aseiniad. Cwestiynau atebion byr.

Dilyniant

Dilyniant:

  • Sgiliau Gweinyddol mewn Amgylchedd Meddygol L2
  • Trawsgrifiad clywedol ym maes meddygaeth L2
  • Sgiliau Cyfathrebu mewn Amgylchedd Meddygol L2
  • Terminoleg Feddygol ar gyfer Gweinyddwyr L2

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth