Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 2 VTCT mewn Technoleg Ewinedd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor (Campws Newydd)
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    4 awr yr wythnos am 11 wythnos

Cofrestru
×

Dyfarniad Lefel 2 VTCT mewn Technoleg Ewinedd

Oedolion a Rhan-amser

Campus Newydd Bangor New Campus
Cwrs dydd: 19/01/26, 10:00 yb
Ffi dysgu:   £190.00  |  Ffi arholiad:   £0.00  |  Cyfanswm: £190.00

Disgrifiad o'r Cwrs

Cwrs Acrylig i Ddechreuwyr

Byddwch yn dysgu sut i feistroli'r sgiliau sylfaenol gan gynnwys; troshaenau acrylig, set lawn o estyniadau, gosod blaenau a thechnegau ffeilio.

Byddwch yn dysgu theori anatomeg a ffisioleg ewinedd, a pharatoi a gofalu am ewinedd naturiol yn gywir.

Yn dilyn eu gosod yn llwyddiannus, byddwn wedyn yn dangos i chi sut i gynnal a chadw ewinedd eich cleient a phan fo angen, eu tynnu'n ddiogel gan amddiffyn yr ewinedd naturiol.

Gofynion mynediad

Dim

Cyflwyniad

Gwylio arddangosiadau a chwblhau sgiliau ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig.

  • Anatomeg a Ffisioleg
  • Iechyd a Hylendid
  • Diogelwch yn y salon
  • Afiechydon ac Anhwylderau Ewinedd
  • Gwrtharwyddion o Wasanaeth
  • Paratoi'r Ewinedd Naturiol
  • Troshaenau Acrylig
  • Technegau Blaen a Throshaen
  • Cynnal a chadw, a Mewnlenwadau
  • Tynnu'n Ddiogel
  • Polish Gel dwylo a thraed

Dysgu cyfunol, rydym yn cyflwyno deunydd theori i chi ar-lein ac mewn sesiynau ymarferol.

Bydd gennych hefyd fynediad ar-lein i: arddangosiadau ymarferol a deunydd theori.

Asesiad

6 o Arsylwadau ymarferol - dangos sgiliau.

Gwaith theori, un llyfr gwaith - dangos gwybodaeth.

Arholiad amlddewis ar-lein ar ddiwedd uned .

Dilyniant

  • Therapi Harddwch Lefel 1
  • Therapi Harddwch Lefel 2 (2 TGAU gradd C neu uwch neu brofiad perthnasol cysylltiedig)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Myfyriwr trin gwallt yn torri gwallt