Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Un diwrnod: 10am - 4pm

Cofrestrwch
×

Celf Ewinedd mewn Salon

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae hwn yn gwrs celf ewinedd rhagorol i'r rhai sy'n rhedeg salon a fydd yn eich galluogi i greu celf ewinedd cyflym a deniadol sy'n cyd-fynd â'r galw gan gleientiaid yn y salon heddiw.

Gan ddefnyddio cynhyrchion sydd gennych chi eisoes yn aml, byddwn yn eich haddysgu sut i ddefnyddio ffoiliau, gliter, inc, stampiau a phigment a pheth paentio llawrydd. Cwrs ymarferol yw hwn sy'n gweithio ar flaenau'r ewinedd, a byddwch yn creu llu o ddyluniadau. Mae'r lefel sgiliau ar lefel dechreuwr, ac mae'n caniatáu i chi ddefnyddio'r technegau a chreu llawer o ddyluniadau eraill. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n artistig, mae'r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr.

  • Dysgwch sut i farmori gydag inciau a geliau
  • Gweithio gyda chynhyrchion newydd
  • Dysgwch sut i greu dyluniadau cyfoes gan ddefnyddio technegau modern
  • Sut i bennu pris eich celf ewinedd
  • Creu dyluniadau gliter sy'n diflannu'n raddol, rhosod wedi'u paentio â llaw, marmori, dyluniadau pigment haniaethol, printiau anifeiliaid unigryw a rhagor

Gofynion mynediad

Dim

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs yn y salon yn Llangefni trwy gyfres o sesiynau arddangos. Yn dilyn pob sesiwn arddangos cewch amser i ail-greu’r edrychiad, gan ddefnyddio cynhyrchion a ddarperir ar y diwrnod. Bydd y tiwtoriaid wrth law i roi cymorth a chefnogaeth i chi, ac yn caniatáu i chi fynegi eich creadigrwydd.

Asesiad

Asesir yn ystod y cwrs.

Dilyniant

Rhagor o weithdai celf ewinedd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch