Hanfodion Cydymffurfiaeth Ôl-osod a Sicrwydd Ansawdd/Cyflwyniad i'r Microgeneration Certification Scheme (MCS) a Chyrff Ardystio – Cwrs Ymwybyddiaeth
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni, Ty Gwyrddfai
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod
Hanfodion Cydymffurfiaeth Ôl-osod a Sicrwydd Ansawdd/Cyflwyniad i'r Microgeneration Certification Scheme (MCS) a Chyrff Ardystio – Cwrs YmwybyddiaethCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Hanfodion Cydymffurfiaeth Ôl-osod a Sicrwydd Ansawdd
Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad clir ac ymarferol i gydymffurfiaeth a sicrwydd ansawdd yng nghyd-destun ôl-osod domestig.
Mae'n addas i gontractwyr bach a chanolig, swyddogion ansawdd, a chydlynwyr ôl-osod sy'n gwneud gwaith o dan gynlluniau fel PAS 2030, PAS 2035, a MCS, gan gynnwys cynlluniau a gefnogir gan TrustMark.
Bydd y cyfranogwyr yn ennill gwybodaeth hanfodol am ddogfennaeth, paratoi at archwiliadau, a sut i osgoi peryglon cyffredin — gan helpu i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cwblhau'n unol â safonau'r diwydiant a gofynion y cynlluniau
Trosolwg o'r Agenda:
Cyflwyniad i Gydymffurfiaeth Ôl-osod
- Pam fod cydymffurfiaeth yn bwysig: enw da a goblygiadau cyfreithiol ac ariannol
- Trosolwg o ofynion PAS 2030, PAS 2035, MCS, a TrustMark
Rolau, Cyfrifoldebau a Chofnodion
- Rolau gwahaniaethol: Gosodwr, Cydlynydd, Dylunydd
- Deall dogfennaeth graidd: arolygon, datganiadau, rhestrau gwirio
- Disgwyliadau TrustMark o ran cofnodi a dilysu
Sicrhau Ansawdd yn Ymarferol
- Beth yw System Rheoli Ansawdd (QMS)?
- Cymharu Archwiliadau Mewnol ag Archwiliadau Allanol
- Casglu tystiolaeth a chofnodion ffotograffig
Egwyl
Archwiliadau, Problemau a Gwelliant Parhaus
- Sut i baratoi ar gyfer archwiliad o safle
- Achosion cyffredin o beidio â chydymffurfio a sut i'w hosgoi
- Cynnal ansawdd cyson ar draws nifer o brosiectau
- Trafodaeth derfynol a chwestiynau
Deunyddiau sy'n Rhan o'r Cwrs:
- Sleidiau crynhoi (PDF)
- Rhestr wirio ar gyfer paratoi at archwiliad
- Matrics cydymffurfio
- Dolenni defnyddiol i ganllawiau PAS a TrustMark
Cyflwyniad i'r Microgeneration Certification Scheme (MCS) a Chyrff Ardystio – Cwrs Ymwybyddiaeth
Mae'r cwrs ymwybyddiaeth hwn yn rhoi cyflwyniad clir a hygyrch i'r Microgeneration Certification Scheme (MCS) a rôl cyrff ardystio yn sector ynni adnewyddadwy a charbon isel y Deyrnas Unedig.
Wedi'i gynllunio ar gyfer gosodwyr, contractwyr a rheolwyr prosiect — yn enwedig y rhai sy'n gweithio ar gynlluniau fel y Cynllun Uwchraddio Boeleri (BUS), Gwarant Allforio Clyfar (SEG) neu ECO4 — mae'r cwrs yn egluro sut mae MCS yn sail i sicrhau ansawdd, diogelu defnyddwyr a chydymffurfio rheoleiddiol.
Bydd dysgwyr yn archwilio'r broses ardystio, y llwybrau ar gyfer technolegau penodol a sut mae MCS yn cysylltu â fframweithiau eraill fel TrustMark, safonau PAS a'r Cynlluniau Personau Cymwys (CPS).
P'un ai ydych chi'n paratoi ar gyfer ardystiad neu'n cefnogi prosiectau gosod, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall eich rôl wrth ddarparu systemau ynni adnewyddadwy diogel, dibynadwy sy'n cydymffurfio â'r gofynion.
Trosolwg o'r Agenda:
Croeso a Chyflwyniadau
- Nodau a chyd-destun y cwrs
- Pwysigrwydd safonau ansawdd yn y newid i sero net
Beth yw'r Microgeneration Certification Scheme (MCS)?
- Trosolwg o'r MCS
- Y technolegau dan sylw: Paneli solar, pympiau gwres, batris, ac ati
- MCS a diogelu defnyddwyr
Safonau Ardystio MCS
- Cyflwyniad i safonau MIS (e.e. MIS 3005)
- Cymhwysedd, hyfforddiant a rhwymedigaethau gosodwyr
- Dogfennau ac arferion gorau wrth drosglwyddo systemau i'r cleient
Egwyl
Rôl y Cyrff Ardystio
- Cyrff ardystio achrededig gan UKAS
- Ennill ardystiad a'r broses archwilio
- Cymharu Cynlluniau Ardystio â Chynlluniau Personau Cymwys (CPS)
Cydymffurfiaeth a Diogelu Defnyddwyr
- TrustMark, gwarantau a gweithdrefnau cwyno
- Cyfrifoldebau gosodwyr o dan gynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth
- Trafodaeth agored a sesiynau holi ac ateb
Deunyddiau sy'n rhan o'r cwrs:
- Pecyn sleidiau digidol (PDF)
- Crynodeb o safonau allweddol MCS
- Rhestr wirio ardystio gosodwyr
Dolenni defnyddiol i adnoddau MCS, TrustMark ac UKAS
Dyddiadau Cwrs
CIST-Llangefni
| Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Cod |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 15/04/2026 | 08:30 | Dydd Mercher | 7.00 | 1 | £70 | D0026245 |
CIST-Llangefni
| Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Cod |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 07/05/2026 | 08:30 | Dydd Iau | 7.00 | 1 | £70 | D0026246 |
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol , er bod rhywfaint o brofiad o weithio ar brosiectau ôl-osod neu osod blaenorol yn fanteisiol.
Mae'r cwrs hwn yn addas i:
- Contractwyr busnesau bach a chanolig a goruchwylwyr safle
- Swyddogion sicrhau ansawdd mewn timau ôl-osod
- Cydlynwyr a dylunwyr ôl-osod
Unrhyw un sy'n cefnogi gweithgareddau cydymffurfio TrustMark neu MCS
- Gosodwyr a chontractwyr ym maes ynni adnewyddadwy
- Rheolwyr Prosiect a chydlynwyr cynlluniau carbon isel
- Ymgynghorwyr ynni a gweithwyr proffesiynol ôl-osod
- Gweithwyr proffesiynol sy'n dod i mewn i'r sector neu'n cefnogi ceisiadau am gyllid (BUS, SEG, ECO4)
Dylai cyfranogwyr fod â diddordeb mewn sicrhau ansawdd neu gydymffurfio o ran y maes ynni adnewyddadwy yn y Deyrnas Unedig
Cyflwyniad
- Cyflwyniadau gydag enghreifftiau o'r byd go iawn
- l Trafodaethau grŵp a rhannu profiadau
- Sesiwn holi ac ateb sy'n canolbwyntio ar baratoi at archwiliadau ac arferion gorau
Asesiad
Nid oes asesu ffurfiol.
Anogir dysgwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau a gweithgareddau adfyfyriol.
Byddant yn cael Tystysgrif Presenoldeb ar ddiwedd y cwrs.
Dilyniant
Yn dilyn y cwrs hwn, efallai y bydd dysgwyr am symud ymlaen i:
- Hyfforddiant ar PAS 2030 neu PAS 2035
- Cyrsiau MCS i osodwyr neu gyrsiau rheoli ansawdd
- Ardystiad i Gydlynwyr Ôl-osod
- Swyddi gwell ym maes cydymffurfio, paratoi at archwiliadau, neu oruchwylio prosiectau sy'n rhan o gynlluniau a ariennir
- Paratoi ar gyfer Ardystiad gosodwr MCS
- Dilyniant i hyfforddiant gosod neu ddylunio technoleg benodol (e.e. Paneli Solar, Pympiau Gwres)
- Cyrsiau PAS 2030/2035 a chymwysterau a gydnabyddir gan TrustMark
- Rolau cefnogol mewn rheoli prosiectau, cydymffurfiaeth neu sicrhau ansawdd yn achos cynlluniau a ariennir
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Arbenigol / Arall