Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hanfodion Cydymffurfiaeth Ôl-osod a Sicrwydd Ansawdd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni, Ty Gwyrddfai
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3.5 awr (hanner diwrnod)

Cofrestrwch
×

Hanfodion Cydymffurfiaeth Ôl-osod a Sicrwydd Ansawdd

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs undydd hwn yn rhoi cyflwyniad clir ac ymarferol i gydymffurfiaeth a sicrwydd ansawdd yng nghyd-destun ôl-osod domestig.

Mae'n addas i gontractwyr bach a chanolig, swyddogion ansawdd, a chydlynwyr ôl-osod sy'n gwneud gwaith o dan gynlluniau fel PAS 2030, PAS 2035, a MCS, gan gynnwys cynlluniau a gefnogir gan TrustMark.

Bydd y cyfranogwyr yn ennill gwybodaeth hanfodol am ddogfennaeth, paratoi at archwiliadau, a sut i osgoi peryglon cyffredin — gan helpu i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cwblhau'n unol â safonau'r diwydiant a gofynion y cynlluniau

Trosolwg o'r Agenda:
09:00 – 09:15 | Cyflwyniad i Gydymffurfiaeth Ôl-osod

  • Pam fod cydymffurfiaeth yn bwysig: enw da a goblygiadau cyfreithiol ac ariannol

  • Trosolwg o ofynion PAS 2030, PAS 2035, MCS, a TrustMark

09:15 – 10:00 | Rolau, Cyfrifoldebau a Chofnodion

  • Rolau gwahaniaethol: Gosodwr, Cydlynydd, Dylunydd

  • Deall dogfennaeth graidd: arolygon, datganiadau, rhestrau gwirio

  • Disgwyliadau TrustMark o ran cofnodi a dilysu

10:00 – 10:30 | Sicrhau Ansawdd yn Ymarferol

  • Beth yw System Rheoli Ansawdd (QMS)?

  • Cymharu Archwiliadau Mewnol ag Archwiliadau Allanol

  • Casglu tystiolaeth a chofnodion ffotograffig

10:30 – 10:45 | Egwyl

10:45 – 11:30 | Archwiliadau, Problemau a Gwelliant Parhaus

  • Sut i baratoi ar gyfer archwiliad o safle

  • Achosion cyffredin o beidio â chydymffurfio a sut i'w hosgoi

  • Cynnal ansawdd cyson ar draws nifer o brosiectau

  • Trafodaeth derfynol a chwestiynau

Deunyddiau sy'n Rhan o'r Cwrs:

  • Sleidiau crynhoi (PDF)

  • Rhestr wirio ar gyfer paratoi at archwiliad

  • Matrics cydymffurfio

  • Dolenni defnyddiol i ganllawiau PAS a TrustMark

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol , er bod rhywfaint o brofiad o weithio ar brosiectau ôl-osod neu osod blaenorol yn fanteisiol.

Mae'r cwrs hwn yn addas i:

  • Contractwyr busnesau bach a chanolig a goruchwylwyr safle

  • Swyddogion sicrhau ansawdd mewn timau ôl-osod

  • Cydlynwyr a dylunwyr ôl-osod ⁠

Unrhyw un sy'n cefnogi gweithgareddau cydymffurfio TrustMark neu MCS

Cyflwyniad

Cyflwynir y sesiwn dros 3.5 awr (hanner diwrnod) dan arweiniad tiwtor ac mae'n cyfuno:

  • Cyflwyniadau gydag enghreifftiau o'r byd go iawn

  • l Trafodaethau grŵp a rhannu profiadau

  • ⁠Sesiwn holi ac ateb sy'n canolbwyntio ar baratoi at archwiliadau ac arferion gorau

Asesiad

Nid oes asesu ffurfiol.

Anogir dysgwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau a gweithgareddau adfyfyriol.

Byddant yn cael Tystysgrif Presenoldeb ar ddiwedd y cwrs.

Dilyniant

Yn dilyn y cwrs hwn, efallai y bydd dysgwyr am symud ymlaen i:

  • Hyfforddiant ar PAS 2030 neu PAS 2035
  • Cyrsiau MCS i osodwyr neu gyrsiau rheoli ansawdd ⁠
  • Ardystiad i Gydlynwyr Ôl-osod
  • Swyddi gwell ym maes cydymffurfio, paratoi at archwiliadau, neu oruchwylio prosiectau sy'n rhan o gynlluniau a ariennir

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Arbenigol / Arall

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date