Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cymwysterau Sicrhau Ansawdd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    6 mis

Cofrestrwch
×

Cymwysterau Sicrhau Ansawdd

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymwysterau hyn yn addas ar gyfer pobl eisoes yn gweithio, neu'n rai sy'n meddwl dechrau swydd ym maes sicrhau ansawdd yn y gweithle neu'n alwedigaethol.

Bydd y cymwysterau'n cynnig cyfle i bobl sydd yn gwneud gwaith Sicrwydd Ansawdd yn eu sefydliad i ddatblygu a gwella eu harferion yn gystal ag ennill cymhwyster proffesiynol ar gyfer y gwaith.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae'r cyrsiau'n addas ar gyfer pobl sydd yn gweithio ym maes addysgu achrededig ac addysgu heb ei achredu (ble mae pobl yn asesu perfformiad ond ddim yn sicrhau ansawdd ar gyfer cymhwyster).

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cynnwys diwrnod cynefino ac yna rhaglen asesu unigol o'ch dealltwriaeth a'ch sgiliau.

Asesiad

Byddwch yn cael eich asesu drwy gyflwyno amrywiaeth o ymarferion yn seiliedig ar theori a thrwy dystiolaeth ymarferol. Mae dulliau asesu yn cynnwys:

  • arsylwi
  • tystiolaeth llygad dystion
  • cyfweliadau a thrafodaeth
  • cwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar
  • aseiniadau
  • prosiectau
  • astudiaethau achos

Dilyniant

Bydd y cymwysterau hyn yn eich cynorthwyo i fynd ymlaen i weithio fel:

  • Swyddog Sicrhau Ansawdd Cymwys
  • Hyfforddwr

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Arbenigol / Arall

Dwyieithog:

n/a