Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cwrs Ymwybyddiaeth PAS 2030 – Trosolwg/Cyflwyniad i PAS 2035 a'r Dull Ôl-osod Tŷ Cyfan

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni, Ty Gwyrddfai
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod

Cofrestru
×

Cwrs Ymwybyddiaeth PAS 2030 – Trosolwg/Cyflwyniad i PAS 2035 a'r Dull Ôl-osod Tŷ Cyfan

Cyrsiau Byr

CIST-Llangefni
Dydd Iau, 16/04/2026
CIST-Llangefni
Dydd Mercher, 06/05/2026

Disgrifiad o'r Cwrs

PAS 2030

Mae'r cwrs ymwybyddiaeth hwn yn cyflwyno egwyddorion a gofynion hanfodol PAS 2030, sef y Fanyleb sydd ar gael yn Gyhoeddus (Publicly Available Specification) sy'n nodi'r safon i osodwyr mesurau effeithlonrwydd ynni ym maes ôl-osod domestig.

Wedi'i dargedu at osodwyr, contractwyr, swyddogion cydymffurfio a rheolwyr safle, mae'r cwrs yn cwmpasu'r sgôp, y cyfrifoldebau a'r disgwyliadau cydymffurfio o dan PAS 2030 — gan gynnwys sut mae'n cyd-fynd law yn llaw â PAS 2035, TrustMark a chynlluniau fel ECO4, GBIS a SHDF.

P'un ai ydych chi'n paratoi ar gyfer ardystiad, yn rheoli timau ôl-osod, neu'n cefnogi sicrhau ansawdd, mae'r cwrs hwn yn darparu sylfaen gadarn yn yr hyn y mae PAS 2030 yn ei fynnu mewn gosodiadau yn y byd go iawn.

Trosolwg o'r Agenda:


Croeso a Chyflwyniadau

  • Nodau a disgwyliadau'r cwrs

  • Trosolwg o gyd-destun polisi ôl-osod

Deall PAS 2030

  • Beth yw PAS 2030 ac i bwy mae'n berthnasol?

  • Hanes ac esblygiad y safon

  • Ardystiad, mesurau, a sgôp y gosodwr

  • Ei swyddogaeth mewn cynlluniau ôl-osod a ariennir

Gofynion Allweddol y Gosodwr

  • Cymhwysedd, rheoli prosesau, a safonau

  • Trosglwyddo, comisiynu a gofalu am gwsmeriaid

  • Disgwyliadau iechyd a diogelwch

Egwyl


PAS 2030 a'r Fframwaith Safonau Ôl-osod

  • Sut mae PAS 2030 a PAS 2035 yn rhyngweithio

  • Rôl Cydlynwyr Ôl-osod

  • Egwyddorion tŷ cyfan, ffabrig yn gyntaf

  • Gofynion TrustMark

Cydymffurfiaeth, Dogfennau a Sesiwn Holi ac Ateb

  • Tystiolaeth a dogfennau ar gyfer archwiliadau

  • Problemau cyffredin a'r gwersi a ddysgwyd

  • Trafodaeth agored a chasgliad

Deunyddiau sy'n rhan o'r cwrs:

  • Pecyn Sleidiau (PDF)

  • Taflen sy'n crynhoi PAS 2030 i Osodwyr

  • Templed ar gyfer Rhestr Wirio Cydymffurfiaeth

  • Dolenni i ganllawiau swyddogol (BSI, TrustMark, BEIS)

PAS 2035

Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad clir ac ymarferol i PAS 2035 ac egwyddorion y dull ôl-osod tŷ cyfan, fel rhan o strategaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cyflawni targedau sero net.

Wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud ag unrhyw gam o'r broses ôl-osod — gan gynnwys asesu, dylunio, cydlynu a gosod — mae'r cwrs yn archwilio llwybrau sy'n seiliedig ar risg, rolau prosiect, ac integreiddio PAS 2035 gyda PAS 2030 a gofynion TrustMark.

Erbyn diwedd y sesiwn, bydd dysgwyr yn deall sut i ymdrin â phrosiectau ôl-osod yn gyfannol, asesu risgau'n briodol, a sicrhau ansawdd a chydymffurfio ar draws y camau cyflawni.

Trosolwg o'r Agenda:
|

Croeso a Chyd-destun

  • Cefndir y polisi ôl-osod

  • Pam y datblygwyd PAS 2035

  • Amcanion y cwrs

Prif Egwyddorion PAS 2035

  • Ôl-osod tŷ cyfan a dull sy'n rhoi'r ffabrig yn gyntaf

  • Swyddi allweddol: Cydlynydd, Asesydd, Dylunydd, Prisiwr

  • Llwybrau risg A, B, C

Defnyddio PAS 2035

  • Y broses ôl-osod gam wrth gam

  • Arolygon cyflwr ac asesiadau risg

  • Camau cyflawni prosiect: asesu, dylunio, trosglwyddo

Egwyl


PAS 2035 ar waith

  • Cysylltu PAS 2035 â gosodiadau PAS 2030

  • TrustMark, dogfennau a chydymffurfio

  • Monitro, gwerthuso, a gwersi a ddysgwyd


Dyddiadau Cwrs

CIST-Llangefni

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostCod
16/04/202608:30 Dydd Iau7.001 £70D0026243

CIST-Llangefni

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostCod
06/05/202608:30 Dydd Mercher7.001 £70D0026244

Gofynion mynediad

PAS 2030

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Mae wedi'i gynllunio ar gyfer:

  • Gosodwyr mesurau effeithlonrwydd ynni

  • Contractwyr ôl-osod a swyddogion cydymffurfio

  • Rheolwyr safle a goruchwylwyr technegol

  • Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar gynlluniau a ariennir fel ECO4, GBIS neu SHDF

Dylai cyfranogwyr fod yn gyfarwydd ag amgylcheddau adeiladau neu ôl-osod domestig.

PAS 2035

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer:

  • Cydlynwyr Ôl-osod, Aseswyr, Dylunwyr,

  • Gosodwyr a Chynghorwyr Ynni

  • Swyddogion awdurdod lleol, staff cymdeithasau tai

  • Rheolwyr Prosiect ac ymgynghorwyr sy'n gweithio ym maes ôl-osod neu effeithlonrwydd ynni

  • Unrhyw un sy'n newydd i PAS 2035 neu sy'n awyddus i adnewyddu eu dealltwriaeth


Cyflwyniad


  • Cyflwyniadau dan arweiniad tiwtor a thrafodaethau grŵp

  • Sesiynau holi ac ateb gydag enghreifftiau cydymffurfio o'r byd go iawn
  • Enghreifftiau ymarferol a chyd-destun achos prosiect

  • Archwiliad rhyngweithiol o ddogfennau a rolau PAS 2035

Deunyddiau cyfeirio i'w defnyddio ar ôl y cwrs

Asesiad

Nid oes asesu ffurfiol.

Anogir dysgwyr i gymryd rhan weithredol drwy gydol y cwrs.

Bydd dysgwyr yn derbyn Tystysgrif Presenoldeb ar ôl cwblhau'r cwrs.

Dilyniant

Mae'r cwrs hwn yn gam cyntaf ardderchog tuag at:

  • Gyflawni ardystiad PAS 2030

  • Astudio pellach ym maes PAS 2035, cydgysylltu ôl-osod⁠ neu reoli ansawdd

  • Hyfforddiant technegol mewn gosod technolegau effeithlonrwydd ynni
  • Hyfforddiant Cydlynydd Ôl-osod Achrededig (Lefel 5)
  • Cymwysterau ychwanegol mewn asesiad ynni domestig, ôl-osod carbon isel, neu osodiadau PAS 2030.
  • Swyddi mewn cynlluniau cofrestredig gyda TrustMark neu raglenni ôl-osod a gyllidir (e.e. SHDF, ECO4)

Rolau ategol mewn rhaglen ôl-osod domestig a ariennir

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Arbenigol / Arall