Systemau Pwmp Gwres NICEIC - Sgiliau Trydanol a Diagnosteg
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni, Ty Gwyrddfai
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:3 diwrnod (22.5 awr) 
Systemau Pwmp Gwres NICEIC - Sgiliau Trydanol a DiagnostegCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs tridiau hwn wedi'i gynllunio ar gyfer peirianwyr sy'n gweithio gyda phympiau gwres neu sy'n bwriadu uwchsgilio. Bydd yn eich helpu i ddeall sut mae systemau pwmpio gwres yn gweithio — a sut i ganfod ac atgyweirio namau'n hyderus ac yn ddiogel. Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer peirianwyr sydd eisiau adeiladu ar eu gwybodaeth bresennol am osod a dysgu sgiliau diagnostig ymarferol, yn barod ar gyfer y gwaith.
| Uned | Pwnc | Yr hyn fyddwch chi'n ei ddysgu | 
| 1 | Hanfodion Trydanol | Hanfodion gwyddoniaeth drydanol ar gyfer systemau pwmp gwres. | 
| 2 | Hanfodion Diogelwch Trydanol | Sut i gadw'n ddiogel wrth weithio gyda thrydan. | 
| 3 | Sut mae Systemau Pwmp Gwres yn gweithio | Sut mae cydrannau a systemau rheoli'n gweithio. | 
| 4 | Diagnosteg Namau | Technegau i nodi a thrwsio namau mewn systemau. | 
Gofynion mynediad
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer:
- Gosodwyr pympiau gwres ardystiedig sydd am ddatblygu sgiliau canfod namau.
- Peirianwyr sydd â phrofiad o systemau gwresogi gwlyb.
- Trydanwyr cymwysedig sydd am ymuno â'r sector gwresogi carbon isel.
Rhaid i ddysgwyr:
- Feddu ar dystysgrif gydnabyddedig ym maes gosod a chynnal a chadw pympiau gwres.
- Feddu ar wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad o:
- Systemau allyrru gwres canolog gwlyb.
- Rheolyddion systemau gwresogi.
- Cydrannau gwresogi.
- Mae'r cwrs yn addas hefyd i drydanwyr sydd â chymwysterau addas.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs dros dridiau hyfforddi llawn ac mae'n cynnwys hyfforddiant ac asesiad o dan arweiniad tiwtor.
Asesiad
I ennill eich tystysgrif, rhaid i chi gwblhau'r pedair uned. Mae asesu yn cynnwys:
- Prawf theori ar ddiwedd y cwrs.
- Tasgau llyfr gwaith ar gyfer pob uned.
- Asesiad ymarferol.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn derbyn Tystysgrif Cymhwysedd a gydnabyddir gan y diwydiant gan NICEIC. Byddwch yn magu hyder gyda diagnosted a thrwsio namau system pwmp gwres trwy hyfforddiant ymarferol gydag enghreifftiau bywyd go iawn a chyfarwyddyd arbenigol
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A										
Maes rhaglen:
- Arbenigol / Arall