Diploma Lefel 3 mewn Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
 - Dull astudio:Rhan amser
 - Hyd:
O fewn 24 mis
 
Diploma Lefel 3 mewn Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau GwybodaethOedolion a Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Staff sydd eisoes yn gweithio yn y sector llyfrgelloedd, archifau neu reoli cofnodion ac sy'n dymuno ennyn cymhwyster i brofi eu bod yn gymwys i wneud y gwaith.
Dyluniwyd y Diploma Lefel 3 ar gyfer staff sydd wedi bod yn gweithio mewn llyfrgell neu uned wybodaeth am o leiaf 2 flynedd.
Gofynion mynediad
Rhaid i chi fod yn gweithio yn y sector Llyfrgelloedd, Archifau neu Reoli Cofnodion.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs yn y gweithle. Mae cymorth ar-lein ar gael drwy system Onefile e-portfolio.
Bydd yn rhaid i chi gwblhau pedair uned orfodol ac amrywiaeth o unedau dewisol (hyd at 27 o gredydau):
- Dulliau trefnu gwybodaeth a/neu ddeunydd
 - Cefnogi defnyddwyr i ddefnyddio adnoddau digidol
 - Creu a chynnal amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
 - Helpu defnyddwyr i gael gafael ar wybodaeth a/neu ddeunydd
 - Hyrwyddo Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth
 - Cynnig gweithgareddau anwytho a chyfeirio i ddefnyddwyr
 - Ymgysylltu â'r gymuned ehangach
 - Hanes Teulu
 - Gwybodaeth Iechyd
 - Astudiaethau Lleol
 - Paleograffeg
 - Datblygiad Darllenwyr
 - Dyrannu a gwirio gwaith mewn tîm
 - Datblygu perthynas weithio cynhyrchiol gyda chydweithwyr
 - Darparu gwybodaeth a/neu ddeunydd
 - Arwain tîm
 - Lleoli a dychwelyd a/neu ddeunydd
 - Rheoli adnoddau a datblygiad proffesiynol personol
 - Gwarchod, diogelu a chopio gwybodaeth a/neu ddeunydd
 - Deall amgylchedd Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth
 - Deall sefydliad Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth
 
Mae modd trosglwyddo hyd at 21 o gredydau o dystysgrif lefel 2 a'u defnyddio tuag at y cymhwyster hwn.
Nid oes dyfarniad cyfan ar gael ar lefel 4 ond gall dysgwyr ddefnyddio'r credydau o'r unedau hyn tuag at gymhwyster AU.
Asesiad
Asesiad yn seiliedig ar waith/cymhwysedd. Caiff yr unedau eu hasesu drwy gyfrwng portffolio o dystiolaeth a gasglwyd o waith y dysgwr.
Dilyniant
Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs gallech fynd ymlaen i astudio:
- Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth
 
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser
Lefel:
3										
Maes rhaglen:
- Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth
 
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llandrillo-yn-Rhos
 
Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth