Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Lefel 2 mewn Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    O fewn 12 mis

Cofrestrwch
×

Tystysgrif Lefel 2 mewn Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Staff sydd eisoes yn gweithio yn y sector llyfrgelloedd, archifau neu reoli cofnodion ac sy'n dymuno ennyn cymhwyster i brofi eu bod yn gymwys i wneud y gwaith.

Dyluniwyd y dystysgrif Lefel 2 fel man cychwyn ar gyfer staff sy'n gymharol newydd i'r sector llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth ac/neu i astudio ar Lefel 2.

Gofynion mynediad

Rhaid i chi fod yn gweithio yn y sector llyfrgelloedd, archifau neu reoli cofnodion.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs yn y gweithle. Ceir cymorth ar-lein hefyd drwy Moodle (Amgylchedd Dysgu Rhithwir).

Bydd yn rhaid i chi gwblhau wyth uned:

  • Creu a chynnal amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • Helpu defnyddwyr i gael gafael ar wybodaeth a/neu ddeunydd
  • Rhoi gwybodaeth a/neu ddeunydd
  • Lleoli a dychwelyd gwybodaeth a/neu ddeunydd
  • Gwarchod, diogelu a chopïo gwybodaeth a/neu ddeunydd
  • Cefnogi defnyddwyr i ddefnyddio adnoddau digidol
  • Deall trefn llyfrgelloedd, archifau neu wasanaethau gwybodaeth
  • Deall amgylchedd llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth

Asesiad

Asesiad yn seiliedig ar waith/cymhwysedd. Caiff yr unedau eu hasesu drwy gyfrwng portffolio o dystiolaeth a gasglwyd o waith y dysgwr.

Dilyniant

  • Diploma Lefel 3 mewn Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth

Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau tystysgrif (Lefel 2) yn gallu cario 21 o gredydau drosodd i'r diploma (Lefel 3).

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Dwyieithog:

n/a

Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Myfyriwr yn darllen yn y llyfrgell