Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

CPCAB Diploma Lefel 5 mewn Sgiliau a Theori Therapi Ymddygiad Gwybyddol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn. 4 awr yr wythnos, un noson yr wythnos, 5pm-9pm fel rheol.

Cofrestrwch
×

CPCAB Diploma Lefel 5 mewn Sgiliau a Theori Therapi Ymddygiad Gwybyddol

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn addas i:

  • Gwnselwyr Cymwysedig sydd am ddatblygu sgiliau a theori Therapi Ymddygiad Gwybyddol yn rhan annatod o'u gwaith cwnsela proffesiynol.
  • Cwnselwyr Cymwysedig sy'n awyddus i wella'u cyflogadwyedd gyda sefydliadau ac fel ymarferwyr annibynnol drwy feithrin sgiliau a gwybodaeth gadarn ym maes Therapi Ymddygiad Gwybyddolgan ei fod yn un o'r therapïau seicolegol a argymhellir gan NICE.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ffoniwch 01492 546 666 est. 1729 neu e-bost counsellingapplications@gllm.ac.uk

Gofynion mynediad

Diploma Lefel 4 CPCAB mewn Cwnsela Therapiwtig, Tystysgrif Addysg Bellach Lefel 4 mewn Cwnsela neu Ddysgu Blaenorol (RPL) cyfwerth.

Yn Gwnselydd cyflogedig neu'n gwnselydd gweithio yn y sector gwirfoddol.

I fodloni'r fframwaith Therapi Ymddygiad Gwybyddol rhaid wrth allu i gwblhau 30 awr o waith gyda chleientiaid.

Aelod o gorff Cwnsela proffesiynol a bod â'ch yswiriant indemniad proffesiynol eich hun.

Mynediad i oruchwyliaeth Gwnsela fisol.

Cyflwyniad

Cynlluniwyd cynnwys cyffredinol y cwrs i fod yn gyfranogol a bydd yr arddull addysgu'n adlewyrchu hynny, gan ddangos y cysylltiad rhwng theori cwnsela a sgiliau ymarferol.

Bydd y sesiynau addysgu'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu, ynghyd â chyfuniad o:

  • Ddarlithoedd
  • Trafodaethau
  • Gweithio mewn grwpiau bach
  • Gweithdai
  • Tiwtorialau

Dyddiad Cychwyn

Medi a Ionawr

Asesiad

Asesiad mewnol: portffolio'r ymgeisydd yn cael ei asesu gan y tiwtor.

Asesiad allanol: astudiaeth achos sy'n cael ei asesu'n allanol (3,000-3,500 gair)

Hyfedrusrwydd (Llwyddo) / Diffyg Hyfedrusrwydd (Methu) – rhaid i ymgeiswyr ddangos hyfedrusrwydd yn yr asesiad allanol a mewnol i gael y cymhwyster.

Dilyniant

  • Cwrs CPCAB Lefel 6 mewn Goruchwylio ym maes Cwnsela Therapiwtig
  • Gradd Sylfaen mewn Cwnsela.
  • Gradd BA (Anrh) mewn Cwnsela

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 5

Maes rhaglen:

  • Cwnsela

Dwyieithog:

n/a

Cwnsela

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cwnsela