Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

CPCAB Lefel 5 Cwnsela Plant a Phobl Ifanc

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    6 mis. Bydd addysgu yn wythnosol a bydd yn cynnwys wythnos yn y coleg ac wythnos ar-lein.

Cofrestrwch
×

CPCAB Lefel 5 Cwnsela Plant a Phobl Ifanc

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi ymgeiswyr llwyddiannus i weithio fel cwnselwyr gyda'r grŵp oedran hwn mewn amrywiaeth o swyddi a chyfleoedd gyrfa sy'n cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i:

  • Cwnselydd mewn Ysgol neu Goleg
  • Cwnselydd mewn asiantaeth neu sefydliad sy'n arbenigo mewn gwaith cwnsela gyda phlant a phobl ifanc
  • Gweithio fel cwnselydd preifat mewn sefydliad allanol fel ysgol, clwb ieuenctid, lleoliad lles/iechyd meddwl
  • Cwnselydd oedolion mewn sefydliad annibynnol eisiau ymestyn ystod eu gwaith i weithio gyda'r grŵp oedran hwn
  • Gweithiwr ieuenctid yn y gymuned
  • Gweithiwr maes gyda phobl ifanc

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ffoniwch 01492 546 666 est. 1729 neu e-bost counsellingapplications@gllm.ac.uk

Gofynion mynediad

Diploma Lefel 4 CPCAB mewn Cwnsela Therapiwtig, Tystysgrif Addysg Bellach Lefel 4 mewn Cwnsela neu Ddysgu Blaenorol (RPL) cyfwerth.

Yn Gwnselydd cyflogedig neu'n gwnselydd sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol.

Mynediad at gleientiaid er mwyn cwblhau lleiafswm o 60 awr o waith cleient yn gweithio gyda phobl Ifanc a Phlant

⁠Aelod o gorff Cwnsela proffesiynol a bod â'ch yswiriant indemniad proffesiynol eich hun.

Mynediad i oruchwyliaeth Cwnsela Plant misol.

Cyflwyniad

Cynlluniwyd cynnwys cyffredinol y cwrs i fod yn gyfranogol a bydd yr arddull addysgu'n adlewyrchu hynny, gan ddangos y cysylltiad rhwng theori cwnsela a sgiliau ymarferol.

Bydd y sesiynau addysgu'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu, ynghyd â chyfuniad o:

  • Darlithoedd
  • Trafodaethau
  • Gweithio mewn grwpiau bach
  • Gweithdai
  • Tiwtorialau

Asesiad

Asesiad mewnol: portffolio'r ymgeisydd yn cael ei asesu gan y tiwtor.

Asesiad allanol: astudiaeth achos sy'n cael ei asesu'n allanol (3,000-3,500 gair)

⁠Hyfedrusrwydd (Llwyddo) / Diffyg Hyfedrusrwydd (Methu) - rhaid i ymgeiswyr ddangos hyfedrusrwydd yn yr asesiad allanol a mewnol i gael y cymhwyster.

Dilyniant

  • Cwrs CPCAB Lefel 6 mewn Goruchwylio ym maes Cwnsela Therapiwtig.
  • Gradd Sylfaen mewn Cwnsela.
  • Gradd BA (Anrh) mewn Cwnsela

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 5

Maes rhaglen:

  • Cwnsela

Cwnsela

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cwnsela