Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lefel 3 Therapi Tylino Chwaraeon

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    32 wythnos, 3 awr yr wythnos. Nos Fawrth yn dechrau Medi 2024.

Cofrestrwch
×

Lefel 3 Therapi Tylino Chwaraeon

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi fod yn ymarferwr tylino ym maes chwaraeon?

Pwrpas y Ddiploma VTEC Lefel 3 mewn Tylino ym maes Chwaraeon yw rhoi i chi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i weithio heb oruchwyliaeth fel ymarferwr tylino ym maes chwaraeon gyda meinwe nad yw wedi'i anafu.

Bydd unedau'r Ddiploma VTCT Lefel 3 yn cynnwys:

  • Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer tylino ym maes chwaraeon
  • Egwyddorion Iechyd a Ffitrwydd
  • Deall egwyddorion camweithredu meinweoedd meddal
  • Ymarfer proffesiynol mewn tylino ym maes chwaraeon
  • Triniaethau tylino ym maes chwaraeon

Cost: £700

Gofynion mynediad

  • Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Modiwlau ymarferol
  • Darlithoedd ffurfiol
  • Ymchwilio'n unigol
  • Gwaith grŵp

Asesiad

  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Gwaith arsylwi
  • Cwestiynau llafar
  • Datblygu portffolio

Bydd y dystiolaeth ar ganlyniadau unedau yn cael ei dogfennu.

Dilyniant

Bydd dysgwyr sydd wedi ennill y cymhwyster hwn yn gallu gweithio fel Ymarferwyr Tylino Lefel 3 ym maes Chwaraeon. Gall hyn gynnwys gweithio mewn clinigau, neu weithio gyda thimau chwaraeon neu fel therapyddion symudol, un ai'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig.

Ar ôl cwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i ddilyn cwrs Tystysgrif VTCT Lefel 4 mewn Tylino ym maes Chwaraeon. Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i dechnegau tylino ac asesu mwy datblygedig gan eich paratoi i weithio ar anafiadau nad ydynt yn ddifrifol a chyflyrau sydd eisoes yn bod.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

n/a

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch