Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

CPCAB Tystysgrif Lefel 3 mewn Astudiaethau Cwnsela

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    30 wythnos, 4 awr yr wythnos

Cofrestrwch
×

CPCAB Tystysgrif Lefel 3 mewn Astudiaethau Cwnsela

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn yn addas i ymgeiswyr sydd eisoes wedi ennill cymhwyster cydnabyddedig mewn sgiliau cwnsela sydd eisiau:

  • cymryd y cam hyfforddi nesaf i fod yn gwnselydd
  • dysgu rhagor am theori cwnsela, moeseg ac iechyd meddwl
  • bod yn barod i weithio fel cwnselydd proffesiynol mewn asiantaeth

Nid yw'r cymhwyster yn arwain at waith. Cynlluniwyd y cymhwyster fel hyfforddiant cyn-ymarfer i gyd-fynd â chymhwyster cwnsela proffesiynol, ond gallai arwain at waith mewn maes cysylltiedig.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ffoniwch 01492 546 666 est. 1729 neu e-bost counsellingapplications@gllm.ac.uk

Gofynion mynediad

Rhaid i chi fod wedi cwblhau hyfforddiant ar sgiliau cwnsela e.e. ⁠ein Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Cwnsela neu unedau/cymwysterau cyfatebol yn cynnwys 75 awr dysgu dan hyfforddiant.

Cyflwyniad

Cynlluniwyd cynnwys cyffredinol y cwrs i fod yn gyfranogol a bydd yr arddull addysgu'n adlewyrchu hynny, gan ddangos y cysylltiad rhwng theori cwnsela a sgiliau ymarferol.

Bydd y sesiynau addysgu'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu, ynghyd â chyfuniad o:

  • Darlithoedd
  • Trafodaethau
  • Gweithio mewn grwpiau bach
  • Gweithdai
  • Tiwtorialau

Asesiad

Asesiad mewnol: portffolio'r ymgeisydd yn cael ei asesu gan y tiwtor.

Asesiad Allanol: ⁠Hyfedredd (Llwyddo) / Dim Hyfedredd (Methu) - rhaid i ymgeiswyr ddangos hyfedredd yn yr asesiad allanol a mewnol i ennill y cymhwyster.

Dilyniant

Lefel 4 mewn Cwnsela

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cwnsela

Cwnsela

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cwnsela