Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Cwnsela a Theori

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn, 30 wythnos (3 awr yr wythnos)

Cofrestrwch
×

Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Cwnsela a Theori

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn addas i:

  • bobl sy'n gweithio yn y sectorau statudol, preifat a gwirfoddol ac a hoffai ddatblygu eu sgiliau cwnsela yn rhan o'u rôl broffesiynol.
  • Myfyrwyr sydd am gael eu hystyried ar gyfer hyfforddiant ym maes cwnsela ac sydd am fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd/ôl-radd.

Cynhelir y cwrs yng nghyd-destun sefyllfaoedd gwaith go iawn, ac edrychir ar agweddau ar wrando empathig, yn ogystal ag ar rôl agweddau, rhagfarnau a gwerthoedd a allai helpu neu lesteirio'r defnydd o sgiliau cwnsela. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sefydlu perthynas therapiwtig.

Cewch gyfle i nodi, defnyddio a gwerthuso amrediad o sgiliau cwnsela. Yn yr uned, cewch eich annog i fod yn ymwybodol o derfynau eich rôl broffesiynol a phryd y mae'n well cyfeirio rhywun at unigolyn/asiantaeth arall.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ffoniwch 01492 546 666 est. 1729 neu e-bost counsellingapplications@gllm.ac.uk

Gofynion mynediad

Bydd gofyn i chi fod wedi dilyn cwrs Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela Sylfaenol (neu gwrs cyfatebol) a bod yn gweithio mewn amgylchedd lle cewch gyfle i arfer eich sgiliau cwnsela am leiafswm o 2 awr yr wythnos (gall hwn fod yn lleoliad gwirfoddol).

Dylai darpar ymgeiswyr ddeall nad yw'r cymwyster hwn yn addas i rai sy'n wynebu anawsterau emosiynol ar hyn o bryd. Ar y cwrs, bydd gofyn i ddysgwyr arfer sgiliau a fydd yn golygu datgelu cryn dipyn o wybodaeth bersonol, ymgymryd â gweithgareddau datblygiad personol cysylltiedig, ac adfyfyrio ar eu perfformiad personol. Yn y cyfweliad, gofynnir i ddysgwyr gadarnhau eu bod yn deall yr agwedd hon ar y rhaglen, o ran y cynnwys a'r ymroddiad sy'n angenrheidiol i gwblhau'r cwrs.

Cyflwyniad

Cynlluniwyd cynnwys cyffredinol y cwrs i fod yn gyfranogol a bydd yr arddull addysgu'n adlewyrchu hynny, gan ddangos y cysylltiad rhwng theori cwnsela a sgiliau ymarferol.

Bydd y sesiynau addysgu'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu, ynghyd â chyfuniad o:

  • Darlithoedd
  • Trafodaethau
  • Gweithio mewn grwpiau bach
  • Gweithdai
  • Sesiynau tiwtora

Dyddiad Cychwyn

Medi a Ionawr

Asesiad

Cewch eich asesu'n barhaus drwy gyfrwng adborth personol ac adborth gan gymheiriaid a thiwtoriaid.

Asesir y modiwlau drwy gyfrwng gwaith cwrs.

Gall aseiniadau gynnwys traethodau, cyflwyniadau, llyfrau gwaith, dyddlyfrau adfyfyriol, fideos ac ati.

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i ddilyn mwy o gyrsiau cynghori gyda Grŵp Llandrillo Menai, megis:

  • Tystysgrif Addysg Uwch mewn Cwnsela
  • Tystysgrif Lefel 4 mewn Defnyddio Sgiliau a Dulliau Therapiwtig i Gefnogi Lles Pobl Eraill
  • Gradd Sylfaen (FdA) Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghyd â llwybrau ychwanegol arbenigol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cwnsela

Dwyieithog:

n/a

Cwnsela