Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyflwyniad i Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Cwnsela, Hyfforddi a Mentora Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    15 wythnos, 3 awr yr wythnos

Cofrestrwch
×

Cyflwyniad i Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Cwnsela, Hyfforddi a Mentora Lefel 2

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Cwrs rhagarweiniol yw hwn sydd wedi'i gynllunio i gyflwyno pobl i gwnsela a rolau eraill, a nodi'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer datblygu yn eu rôl broffesiynol neu bersonol.

Nod y cwrs yw adnabod sefyllfaoedd yn y gwaith lle mae gofyn defnyddio sgiliau fel gwrando empathig, a deall agweddau, rhagfarnau a gwerthoedd a all hwyluso neu lesteirio'r berthynas.

Bydd yn eich helpu i:

  • ddod i ddeall y sgiliau craidd sy'n cynnwys gwrando'n weithredol ac yn empathig ynghyd ag ymateb yn effeithiol;
  • dod yn ymwybodol o derfynau eich rôl broffesiynol e.e. rôl tiwtor wrth ddysgu a gwybod pryd y mae'n well cyfeirio rhywun at unigolyn/asiantaeth arall.

⁠Mae'r cwrs hwn yn cefnogi strategaeth Meddwl yn Gadarnhaol: Iechyd a Lles Emosiynol Llywodraeth Cymru, ac yn codi ymwybyddiaeth am les emosiynol ac iechyd meddwl. ⁠

Dyma'r pynciau y byddwch yn eu hastudio yn y modiwl hwn:

  • ⁠Sgiliau a Theori Cwnsela
  • Deall gwahaniaethau allweddol rhwng Cwnsela, Hyfforddi a Mentora
  • Moeseg
  • Ymarfer Adfyfyriol
  • Darparu adborth

Bydd hyn yn caniatáu dilyniant i Lefel 3 Cwnsela, neu astudiaeth bellach arall mewn hyfforddi a mentora

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.

Rhaid i chi fod yn 19 oed o leiaf ar adeg dechrau'r cwrs i astudio ar gyfer y cymhwyster hwn.

Cyflwyniad

  • Sesiynau addysgu
  • Cyflwyniadau
  • Gwaith grŵp
  • Ymarfer sgiliau mewn grŵp bach

Asesiad

Sesiynau ymarferol

Dilyniant

  • Lefel 3 Cwnsela
  • Astudiaeth bellach mewn Hyfforddi a Mentora

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Cwnsela

Cwnsela

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cwnsela