Tystysgrif Lefel 2 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Abergele
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
3 awr yr wythnos am 34 wythnos
Tystysgrif Lefel 2 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Oedolion a rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae hwn yn gwrs sydd wedi'i anelu'n bennaf at y rhai sy'n gweithio neu'n gobeithio gweithio fel Cynorthwywyr Addysgu mewn ysgolion Uwchradd.
Mae hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy'n gweithio mewn ysgolion neu gyda phlant gan ei fod yn ymdrin ag ystod eang o faterion amrywiaeth fel: Trawsryweddol, moeseg, hawliau plant yng Nghymru, iechyd meddwl a lles, globaleiddio, deall gofalwyr ifanc, gwrth-fwlio, a deall straen.
Gofynion mynediad
Cwblhau'n llwyddiannus y cwrs Cyflwyniad i fod yn Gynorthwyydd Addysgu mewn Addysg Uwchradd
Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Bydd gwersi yn gymysgedd o astudio yn yr ystafell ddosbarth a dysgu ar-lein.
Asesiad
Byddwch yn cyflwyno portffolio o'ch gwaith er mwyn i'r tiwtor ei asesu.
Dilyniant
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
Cynorthwywyr Ystafell Ddosbarth CACHE Lefel 2 (Tystysgrif ar gyfer Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a rhan-amser
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Hyfforddiant Athrawon
Dwyieithog:
n/aHyfforddiant Athrawon
