Dyfarniad Lefel 1 mewn Weldio TIG
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
- 10 wythnos (5.30 – 8.30pm, bob nos Fawrth)
Dyfarniad Lefel 1 mewn Weldio TIGHyfforddiant rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster Lefel 1 hwn yn addas i'r rhai sydd am weithio yn y diwydiant yn ogystal â'r rhai sydd am gael cymhwyster weldio er mwyn datblygu eu sgiliau personol.
Beth mae cymwysterau Weldio Lefel 1 yn ei gynnwys?
Maent yn caniatáu i unigolion ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer cyflawni tasgau weldio syml yn ddiogel ar gyfer cyflogaeth, diddordeb a/neu wella gyrfa yn y sector peirianneg.
Mae angen i ymgeiswyr wneud cais am un o'r disgyblaethau weldio ar gwrs 10 wythnos. (Tig/Mig/MMA). Cysylltwch â'r adran yn uniongyrchol drwy anfon neges e-bost at edward5l@gllm.ac.uk os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynghylch cynnwys, addasrwydd a gofynion y cymhwyster.
Gofynion mynediad
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond dylai ymgeiswyr fod yn iach a gallu gweithio mewn gweithdy ymarferol gyda rhai peiriannau gwaith metel a'r peryglon cysylltiedig. Dylai ymgeiswyr hefyd allu dilyn cyfarwyddiadau a gallu gweithio'n annibynnol ar adegau wrth gyflawni tasgau Weldio.
Cyfarpar Diogelu Personol - esgidiau diogelwch, oferôl a sbectol diogelwch (darperir Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer weldio).
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy hyd at 10 wythnos o weithdai sgiliau ymarferol ar ôl sesiwn gynefino ddechreuol i'r broses weldio a ddewiswyd wrth gofrestru. Bydd y sesiwn cynefino'n cwmpasu holl offer gweithdy hanfodol y Coleg, iechyd a diogelwch, a'r gofynion asesu. Disgwylir i chi gymryd rhan mewn trafodaethau un i un gyda'r asesydd a/neu drafodaethau grŵp, ynghylch egwyddorion a dulliau weldio, yn ystod y sesiynau.
Ar ol rhoi'r cyfarwyddiadau dechreuol, disgwylir y gall ymgeiswyr weithio'n annibynnol mewn bwth weldio i ymarfer weldiadau darn prawf penodol sy'n eu paratoi i ymgymryd ag asesiadau City & Guilds.
Asesiad
- Pum darn prawf ymarferol - wedi'u tystio a'u llofnodi gan yr aseswr.
- Prawf llafar - asesu gwybodaeth drwy gyfrwng cwestiynau ar lafar gan yr asesydd.
Mae pob cofnod asesu yn cael ei gofnodi mewn llyfr gwaith cwrs a gewch ar ddechrau'r cwrs, a bydd yn cael ei gyflwyno er mwyn sicrhau ansawdd yn fewnol ar ôl cwblhau'r 10 wythnos.
Dilyniant
Mae cymwysterau Lefel 1 yn rhoi gwybodaeth a sgiliau ymarferol sy'n galluogi ymgeiswyr i symud ymlaen i gyflogaeth neu i'r cymwysterau canlynol:
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Weldio (Tig/Mig/MMA) (3268-02)
- Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg - Weldio a Ffabrigo (2850)
- Diploma Lefel 2 mewn Cyflawni Gwaith Peirianneg (7682-20)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Hyfforddiant rhan-amser
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
n/a