Cyrsiau Sgiliaith
Ymwybyddiaeth Iaith yng Nghyd-destun Addysg yng Nghymru - TAOR
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad cymunedol
- Math o gwrs:Sgiliaith
- Dull astudio:Rhan amser
- Lefel:N/A
- Maes rhaglen:Specialist / Other
- Hyd:
Cwrs dwy awr (gellir teilwra hyd cwrs ar gyfer anghenion penodol y coleg)
- Dwyieithog:
Cyflwynir y cwrs hwn yn ddwyieithog
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r hyfforddiant yn gyfle i wella dealltwriaeth unigolion o agweddau ehangach sy'n gysylltiedig ag iaith a diwylliant. Mae'n rhoi'r cyfle iddynt gasglu gwybodaeth am ymwybyddiaeth iaith ac i archwilio eu hymateb eu hunain i faterion iaith. Mae'n bosib i unigolion wella eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o ragfarn, gwahaniaethu a stereoteipio, a rhoddir sylw arbennig i wahaniaethu ar sail iaith. Yn ogystal, gellir rhoi diweddariad o sefyllfa'r Gymraeg o ran polisïau a threfniadau ansawdd presennol mewn addysg ar lefel leol a chenedlaethol.
Cysylltwch â Sgiliaith, neu cwblhewch y ffurflen 'Datgan diddordeb yn y cwrs hyfforddiant hwn', i drefnu cwrs yn eich coleg.
Gofynion mynediad
Mae'r hyfforddiant yn addas ar gyfer cyrsiau TAOR mewn addysg ôl-orfodol. Mae'r hyfforddiant yn addas i siaradwyr Cymraeg a di- Gymraeg.
Cyflwyniad
Bydd pob dysgwr sy'n ymgymryd â'r cwrs yn:
- Casglu gwybodaeth am ymwybyddiaeth iaith ac i archwilio eu hymateb eu hunain i faterion iaith
- Gwella eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o ragfarn, gwahaniaethu a stereoteipio, a rhoddir sylw arbennig i wahaniaethu ar sail iaith
- Derbyn diweddariad o sefyllfa'r Gymraeg o ran polisïau a threfniadau ansawdd (Estyn) presennol mewn addysg ar lefel leol (cynlluniau strategol y colegau) a chenedlaethol (e.e. Cymraeg 2050; tuag at Miliwn o Siaradwyr)
Asesiad
Ddim yn berthnasol.
Dilyniant
Nod Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw darparu hyfforddiant a rhaglen mentora arloesol i staff yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bwriad hynny yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid.
Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle.
Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol.
Ariennir darpariaeth Sgiliaith ar gyfer staff addysg bellach a phrentisiaethau gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Porwch ein holl gyrsiau yma.
A hoffech chi wneud cais am y cwrs hwn?
Adnoddau Cwrs
