Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coginio Cartref - Paratoi pryd o fwyd dau gwrs

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Blaenau Ffestiniog, Canolfan Felin Fach - Pwllheli, Amlwch/Bodorgan, Canolfan Gymdeithasol Bro Ffestiniog, Blaenau ffestiniog
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    5 awr yr wythnos am 10/14 wythnos

Cofrestrwch
×

Coginio Cartref - Paratoi pryd o fwyd dau gwrs

Oedolion a rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn ar gyfer y rhai sy'n eithaf cymwys am goginio ac a hoffai ddatblygu eu sgiliau ymhellach. Yn ddelfrydol, byddwch wedi cwblhau o leiaf un o'n cyrsiau Coginio Cartref.

Byddwch yn dysgu sut i:

  • Adnabod a disgrifio amrywiaeth o wahanol ddulliau coginio
  • Trafod manteision ac anfanteision gwahanol ddulliau coginio
  • Cynllunio bwydlen ar gyfer pryd o fwyd dau gwrs
  • Adnabod y cynhwysion a'r meintiau sydd eu hangen
  • Paratoi, coginio, cyflwyno a gweini pryd o fwyd dau gwrs
  • Dangos sut i gadw'r gegin yn lân ac yn hylan gan gynnwys:
    • Glanhau arwynebau gwaith ac offer
    • Trin gwastraff
    • Storio bwyd sydd dros ben

Bydd y mathau o seigiau fydd yn cael eu coginio yn cael eu trafod a'u cytuno gyda'r grŵp ar ddechrau'r cwrs.

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Os ydych chi'n cofrestru ar y cwrs canolradd neu'n paratoi pryd o fwyd dau gwrs, disgwylir y bydd dysgwyr naill ai wedi cwblhau un o'n cyrsiau sylfaenol neu eu bod nhw eisoes yn eithaf cymwys yn y gegin.

Cyflwyniad

  • Trafodaeth
  • Sesiynau ymarferol
  • Arsylwadau
  • Arddangosiadau
  • Llyfr Gwaith
  • Adolygiadau⁠

Asesiad

Dim.

Dilyniant

Cyrsiau coginio eraill.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Oedolion a rhan-amser

Lefel: 0

Maes rhaglen:

  • Sgiliau Bywyd

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date