Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    30 wythnos, 3 awr yr wythnos

Cofrestrwch
×

TGAU Mathemateg

Cyrsiau Rhan-amser

Mae cyrsiau ar gyfer 23/24 bellach yn llawn. Ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2024, bydd ceisiadau ar agor o fis Mehefin 2024 ymlaen.

Cyfeiriwch at ein Cwestiynau Cyffredin ar waelod y dudalen hon a allai ateb rhai cwestiynau i chi.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd llawer o brifysgolion a chyflogwyr yn disgwyl i chi gael TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg. Os na chawsoch y cymhwyster hwn yn yr ysgol, bydd Grŵp Llandrillo Menai'n rhoi cyfle i chi wella'ch gradd er mwyn i chi allu mynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg bellach neu addysg uwch addas neu i swydd.

Neu mae'n bosibl eich bod am astudio Mathemateg am eich bod yn mwynhau dysgu ac wrth eich bodd gyda'r pwnc? Bydd croeso i chi ar ein cwrs!

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng TGAU Mathemateg - Rhifedd a TGAU Mathemateg?

Bydd TGAU Mathemateg - Rhifedd yn asesu'r fathemateg y bydd arnoch chi angen ei defnyddio mewn bywyd bob dydd ac yn y byd gwaith

Bydd TGAU Mathemateg yn ymestyn i'r agweddau Mathemateg sy'n ofynnol i fynd ymlaen i astudiaethau mathemategol, gwyddonol neu dechnegol pellach.

At bwy mae'r cwrs wedi'i anelu?

Unrhyw un â diddordeb mewn cael cymhwyster TGAU neu'n dymuno gwella'u gradd flaenorol yn y pwnc.

Meysydd Allweddol y byddwch yn eu hastudio:

Mae Mathemateg yn rhoi trosolwg ehangach o'i gymharu â Rhifedd. Dyma rai o'r pynciau a astudir: rhifau, algebra, graffiau, siapiau ac ystadegau.

Cost

Ffi dysgu o £80. Ffi arholiad o £40. Mae consesiynau ar gael. Uwchlwythwch dystiolaeth ar gyfer y consesiwn pan fyddwch yn cofrestru ar-lein.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn, ond argymhellir dealltwriaeth dda ynghylch mathemateg sylfaenol.

Os nad ydych chi wedi sefyll yr arholiad o'r blaen, neu wedi'i sefyll ers talwm, bydd eich tiwtor yn cael sgwrs gyda chi i benderfynu a yw'r cwrs hwn yr un cywir ar eich cyfer chi.

Bydd disgwyl i ddysgwyr ddefnyddio e-bost, Google Classroon ac o bosibl adnoddau ar-lein eraill a fydd yn cefnogi eu dysgu. Darperir cymorth i gael mynediad i'r rhain.

Rhaid i chi fyw o fewn mynediad rhwydd i gampws Grŵp Llandrillo Menai gan y bydd angen i chi fynychu campws i gynnal eich asesiadau a'ch arholiadau.

Cyflwyniad

  • Cynigir cyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein

  • Trafodaethau

  • Ymchwilio’n annibynnol

  • Gwaith grŵp

  • Gosodir gwaith cartref yn rheolaidd

Asesiad

Dau arholiad ysgrifenedig (un gyda chyfrifiannell ac un heb gyfrifiannell)

Dilyniant

Gallech ddewis un o blith amryw o gyrsiau gwahanol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • TGAU

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Llangefni

Dwyieithog:

n/a

TGAU rhan-amser: Cwestiynau Cyffredin

Pa gyrsiau TGAU sydd ar gael a ble mae’r cyrsiau hyn yn cael eu cynnig?

  • Saesneg (Iaith) - Abergele, Bangor, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, ar-lein
  • Llenyddiaeth Saesneg - Abergele yn unig
  • Cymraeg (Ail Iaith) –ar-lein yn unig
  • Mathemateg - Bangor, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, ar-lein
  • Mathemateg (Rhifedd) - Abergele, Bangor, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, ar-lein
  • Bioleg - Bangor (dros dro), Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl

Am faint o’r gloch mae’r cyrsiau TGAU?

Bydd dyddiad a lleoliad y cyrsiau TGAU rhan-amser ar gael ar y wefan (Mai/Mehefin bob blwyddyn).

Faint fydd cost y cyrsiau?

Cyfanswm y gost ydy £120. Mae’r ffi dysgu’n £80 a’r ffi arholiad yn £40.

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn gostyngiad.

Sut galla i ganfod ydw i’n gymwys i dderbyn gostyngiad?

Ewch i’r dudalen Ffioedd a Gostyngiadau i gael rhagor o wybodaeth.

Beth yw’r broses o wneud cais ar gyfer cwrs TGAU rhan-amser?

Gwneir cais i ddilyn cwrs TGAU rhan-amser ar ein gwefan.

Sut mae talu am fy nghwrs TGAU?

Bydd rhywun o’r coleg yn cysylltu â chi i wneud taliad diogel dros y ffôn.

Rydw i’n iau na 16 oed, alla i gwblhau fy nghyrsiau TGAU yn y coleg?

Os ydych yn derbyn eich addysg gartref yn hytrach na mewn sefydliad addysg statudol gallwch ddod i ddosbarthiadau TGAU yn y coleg. Bydd gofyn i chi ddod â hebryngwr addas gyda chi i bob gwers. Codir tâl ar raddfa arferol y coleg.

Cyn cofrestru rydym yn awgrymu bod eich rhieni yn cysylltu â Gwasanaethau Dysgwyr am ragor o wybodaeth.

Rydw i wedi cofrestru ar gwrs llawn amser, alla i ailsefyll fy arholiad TGAU hefyd?

Gallwch. Os ydych chi wedi ennill gradd D, byddwn yn eich cofrestru i ailsefyll yr arholiad TGAU priodol. Os yw eich gradd yn is na gradd D, byddwn yn eich cofrestru ar raglen Sgiliau Hanfodol priodol er mwyn eich cynorthwyo i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i gael mynediad at TGAU yn y dyfodol. Os yw eich gradd yn radd C neu uwch ac os hoffech wella’r radd honno cewch gyfle i wneud hynny.

Hoffwn wneud cais ar gyfer y cwrs TGAU mewn Rhifedd neu Fathemateg. Sut byddaf yn gwybod bod fy sgiliau mathemateg yn ddigon da i ymdopi â’r cwrs?

Gall ein tiwtoriaid gynnal asesiad os ydych chi’n poeni y byddwch chi’n cael trafferth gyda chynnwys y cwrs TGAU. Yn dilyn hynny mi fyddan nhw’n trafod hyn â chi ac yn eich cyfeirio at gwrs Mathemateg mwy addas. Bydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau cyn dychwelyd i ddilyn cwrs TGAU yn y dyfodol.

Beth yw lefel TGAU Mathemateg/Rhifedd, alla i ennill gradd C?

Bydd y papur canolradd yn caniatáu i chi ennill graddau rhwng E a B. Os yw eich tiwtor yn teimlo y gallech ennill gradd uwch na gradd B mi fydd yn trafod y posibilrwydd o’ch cofrestru i gwblhau papur haen uwch.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng TGAU Mathemateg a TGAU Rhifedd?

Bydd TGAU Mathemateg - Rhifedd yn asesu’r fathemateg y bydd gofyn i chi ei defnyddio mewn bywyd bob dydd ac yn y byd gwaith. Bydd TGAU Mathemateg yn ymestyn i’r agweddau mathemateg sy’n ofynnol i fynd ymlaen i astudiaethau mathemategol, gwyddonol neu dechnegol pellach. Os oes gennych unrhyw lwybr dilyniant mewn golwg, dylech drafod beth yw eu gofynion penodol.

Hoffwn wneud cais ar gyfer y cwrs TGAU Cymraeg (Ail Iaith). A yw’r cwrs hwn yn addas i rywun â dealltwriaeth cyfyngedig o’r Gymraeg?

E.e. dim ond yn gyfarwydd â’r wyddor Gymraeg, geiriau sylfaenol, diwrnodau’r wythnos, misoedd a rhifau? Neu ydych chi wedi cael gwybod eich bod yn meddu ar ddealltwriaeth dda o’r iaith.

Bydd gofyn i chi feddu ar ddealltwriaeth dda o Gymraeg sylfaenol. Os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â ni a gallwn drefnu i chi gael sgwrs anffurfiol gydag un o’r tiwtoriaid.

Hoffwn gwblhau fy mhwrs TGAU ar-lein - pa offer fydd ei hangen arnaf?

Byddwch angen mynediad i gyfrifiadur personol, gliniadur neu chromebook a gwasanaeth rhyngrwyd dibynadwy. Dylai bod gwe gamera, microffon a seinydd ar eich dyfais er mwyn i chi fedru cymryd rhan lawn yn y wers.

Bydd angen i chi fynychu campws o hyd i sefyll asesiadau allweddol ac arholiadau terfynol, felly mae'n rhaid i chi fyw o fewn pellter teithio i gampws GLLM.

Mae gennyf ddiddordeb mewn dilyn cwrs TGAU mewn Bioleg, ydy’r cwrs hwn ar gael ar-lein?

Nac ydy. Mae angen cwblhau elfennau ymarferol yn ystod y cwrs a dim ond ar y campws mae’r rhain ar gael.

Mae cwestiwn gennyf o hyd am y TGAU, alla i siarad â rhywun?

Cysylltwch â’r adran Cyngor ac Arweiniad i drafod eich ymholiad ymhellach.

Rydw i wedi gwneud cais ac wedi talu am gwrs TGAU ar-lein fydd yn dechrau fis Medi. Pryd bydda i’n derbyn rhagor o wybodaeth am ddyddiad dechrau ac oriau’r cwrs a sut bydda i’n cael mynediad ato?

Bydd eich tiwtor yn cysylltu’n uniongyrchol a chi ac mi gewch gyngor am yr holl wybodaeth angenrheidiol cyn dechrau ar y cwrs. Mae’n bwysig iawn bod eich cyfeiriad e-bost gennym oherwydd dyma sut bydd y tiwtor yn anfon gwybodaeth bwysig atoch chi.

Ydi hi’n bosib i mi sefyll arholiad TGAU fel ymgeisydd allanol, heb ddilyn y dosbarthiadau?

Nac ydy, nid ydym yn derbyn ymgeiswyr allanol i sefyll TGAU yma. Er mwyn sefyll unrhyw arholiad TGAU yn y coleg, rhaid i chi gofrestru ar y cwrs.

Rydw i’n ystyried dilyn cwrs TGAU ar-lein, ble bydda i’n sefyll yr arholiad?

Ar ddechrau’r cwrs, bydd eich tiwtor yn gofyn i chi nodi ar ba gampws hoffech chi sefyll yr arholiad. Gallwch ddewis y campws sy’n lleol i ble rydych chi’n byw. Cewch ddewis o’r canlynol: Bangor, Dolgellau, Glynllifon, Llangefni, Pwllheli, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl.

Oes dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gwrs TGAU ar-lein?

Unwaith bydd y cwrs yn llawn neu’r dyddiad dechrau wedi pasio, bydd y cwrs yn cael ei dynnu oddi ar y wefan.

TGAU

Dau fyfyriwr yn gweithio ar liniadur