Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cymorth Cyntaf yn y Gwaith - Cymhwyster Lefel 3 (3 diwrnod)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Parc Menai (Celf a Dylunio), Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 diwrnod (18 awr)

    £235

Gwnewch gais
×

Cymorth Cyntaf yn y Gwaith - Cymhwyster Lefel 3 (3 diwrnod)

Cyrsiau Byr

CIST-Llangefni
Dydd Mercher, 29/05/2024
Coleg Llandrillo, Abergele
Dydd Mawrth, 11/06/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y cymhwyster yw paratoi dysgwyr i fod yn swyddogion cymorth cyntaf yn y gweithle. Mae cynnwys y cymhwyster yn cyrraedd gofynion Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) o ran hyfforddi swyddogion cymorth cyntaf yn y sefydliadau hynny sydd wedi nodi bod angen i'w staff dderbyn hyfforddiant i'r lefel hon yn eu hasesiad anghenion cymorth cyntaf.

Dyddiadau Cwrs

CIST-Llangefni

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
29/05/202409:00 Dydd Mercher, Dydd Iau, Dydd Gwener18.001 £2350 / 12D0020671

Coleg Llandrillo, Abergele

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
11/06/202409:00 Dydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Iau18.001 £2353 / 10D0019599

Gofynion mynediad

  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 14 oed o leiaf
  • Dylai rhai sy'n rhoi Cymorth Cyntaf allu ymdopi gydag amgylchiadau emosiynol a heriol
  • Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.

Côst: £235

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • gweithgareddau ymarferol
  • chwarae rhan
  • senarios
  • gorchuddio clwyf
  • dysgu ffurfiol

Fe fydd disgwyl i'r rhai hynny sy'n cymryd rhan i orwedd a phenlinio ar y llawr, ac mae angen gwisgo dillad addas.

Asesiad

  • Arholiad ymarferol ac arholiad amlddewis.

Mae'r cwrs wedi ei achredu gan reolyddion yng Nghymru a Lloegr (Ofqual a Llywodraeth Cymru) ac mae'n rhan o'r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh). Fe'i cefnogir gan Sgiliau Iechyd, y Cyngor Sgiliau ar gyfer y sector iechyd.

Dilyniant

Unrhyw gyrsiau byr eraill sy'n berthnasol i'ch swyddogaeth megis Ymwybyddiaeth o Ddementia, Rheoli Heintiau neu gyrsiau eraill ym maes Iechyd a Gofal.

Yn unol â chanllawiau a ddarparwyd gan y HSE, mae'r cymhwyster yn cefnogi/cymeradwyo swyddogion cymorth cyntaf yn y gweithle am gyfnod o dair blynedd ac yna bydd gofyn iddynt wneud y cwrs eto.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Diogelwch

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni

Iechyd a Diogelwch

Dau fyfyriwr yn trafod gwaith ar liniadur