Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gweithdy Mewnosod y Gymraeg

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Lleoliad cymunedol
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Cwrs 1.5 awr

Gwnewch gais
×

Gweithdy Mewnosod y Gymraeg

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i diwtoriaid ac aseswyr ystyried eu harferion presennol o safbwynt mewnosod y Gymraeg gyda dysgwyr.

Gellir cyflwyno'r cwrs hwn i goleg neu sefydliad dysgu'n seiliedig ar waith, neu ei deilwra i faes pwnc penodol. Cysylltwch â Sgiliaith i drafod ymhellach.

Gofynion mynediad

Anelir yr hyfforddiant at diwtoriaid ac aseswyr yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau. Mae'r hyfforddiant yn addas i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg.

Cyflwyniad

Bydd pob dysgwr sy'n ymgymryd â'r cwrs yn:

  • Ystyried arferion presennol o ddefnyddio'r Gymraeg a diwylliant Cymraeg gyda dysgwyr;
  • Trafod enghreifftiau ymarferol o fewnosod y Gymraeg gyda dysgwyr;
  • Datblygu syniadau ymarferol newydd ar gyfer mewnosod y Gymraeg gyda dysgwyr.

Asesiad

Ddim yn berthnasol.

Dilyniant

Nod Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw darparu hyfforddiant a rhaglen mentora arloesol i staff yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bwriad hynny yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid.

Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle.

Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol.

Ariennir darpariaeth Sgiliaith ar gyfer staff addysg bellach a phrentisiaethau gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Porwch ein holl gyrsiau yma.

Mwy o wybodaeth

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Arbenigol / Arall

Dwyieithog:

Cyflwynir y cwrs hwn yn ddwyieithog.