Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela Sylfaenol Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    15 wythnos, 3 awr yr wythnos

Cofrestrwch
×

Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela Sylfaenol Lefel 2

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Rhaid i chi fod yn 19 oed o leiaf ar ddechrau'r cwrs i astudio ar gyfer y cymhwyster hwn.

Cwrs rhagarweiniol yw hwn a gynlluniwyd i roi pobl ar ben y ffordd gyda chwnsela ac i ddynodi'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddatblygu yn eu rôl broffesiynol neu bersonol.

Nod y cwrs yw adnabod sefyllfaoedd yn y gwaith lle mae gofyn defnyddio sgiliau cwnsela, fel gwrando empathig, a deall agweddau, rhagfarnau a gwerthoedd a all hwyluso neu lesteirio'r berthynas gwnsela.

Bydd yn eich helpu i:

  • ddod i ddeall y sgiliau cwnsela craidd sy'n cynnwys gwrando'n weithredol ac yn empathig ynghyd ag ymateb yn effeithiol;
  • dod yn ymwybodol o derfynau eich rôl broffesiynol e.e. rôl tiwtor wrth ddysgu a gwybod pryd y mae'n well cyfeirio rhywun at unigolyn/asiantaeth arall.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ffoniwch 01492 546 666 est. 1729 neu e-bost counsellingapplications@gllm.ac.uk

Gofynion mynediad

Rhaid i chi fod yn 19 oed o leiaf ar ddechrau'r cwrs i astudio ar gyfer y cymhwyster hwn.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfrwng:

  • Cyflwyniadau
  • Darlithoedd
  • Gwaith cwrs
  • Gweithgareddau ymarferol
  • Llyfr Gwaith

Dyddiad Cychwyn

Medi a Ionawr

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfwng:

  • dyddlyfr dysgu
  • hunanasesu
  • arfarniad cymheiriaid
  • gwerthuso drwy drafod

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Cwnsela a Theori

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Cwnsela

Dwyieithog:

n/a

Cwnsela

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cwnsela