Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol - Uwch

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llangefni, Caernarfon, Caergybi
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2.5 awr yr wythnos am 10 wythnos.

    Ar y lefel uwch, ceir tri bloc 10 wythnos mewn blwyddyn.

    Un pob tymor, a phob tymor byddwn yn adeiladu ar y sgiliau a ddysgwyd y tymor blaenorol.

    Mae'r dyddiau a'r amseroedd i'w cadarnhau.

Gwnewch gais
×

Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol - Uwch

Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae ein cyfres o gyrsiau llythrennedd digidol yn addas i'r sawl sydd am ddysgu sut i ddefnyddio technoleg mewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol. Cyflwynir y sesiynau gan diwtoriaid cyfeillgar fydd yn cynllunio eu gwersi i fodloni diddordebau'r myfyrwyr, pa un ai a ydynt yn astudio er mwyn datblygu eu gyrfa neu er pleser yn unig.

Byddwch yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg ac mae'n debyg eich bod am ddatblygu eich sgiliau ymhellach.

Byddwch yn trafod eich targedau a'ch nodau dysgu gyda'ch tiwtor fel eu bod yn bodloni eich anghenion.

Byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau TG ac yn dysgu defnyddio technegau a rhaglenni newydd tra hefyd yn parhau i ddefnyddio'r sgiliau a ddysgwyd ar gyrsiau blaenorol fel e-bost, chwilio'r rhyngrwyd a rhaglenni Office.

Mae croeso i chi ddod â'ch dyfais eich hun i'r sesiynau.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos ymrwymiad i gwblhau'r cwrs 10 wythnos.

Efallai y gofynnir i chi gwblhau asesiad cychwynnol i'n cynorthwyo i benderfynu a yw'r cwrs yn addas i chi.

Cyflwyniad

Bydd y dysgu a'r addysgu'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth a rhoddir pwyslais ar ymarfer gartref y sgiliau a ddangoswyd.

Bydd y dulliau cyflwyno'n amrywio ac yn cael eu teilwra i anghenion unigol. Byddant yn cynnwys:

  • cyflwyniadau a chyfarwyddiadau gan eich tiwtoriaid
  • ymchwilio'n annibynnol
  • prosiectau a thasgau aseiniad

Asesiad

Cewch eich asesu ar sail portffolio o'r gwaith a gynhyrchwyd gennych yn ystod y cwrs. Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu gweithio'n annibynnol i gwblhau'r tasgau a osodwyd. Cewch eich asesu wrth i diwtor y cwrs arsylwi arnoch yn gweithio yn y sesiynau.

Bydd gofyn i'r holl fyfyrwyr gwblhau Cynllun Datblygu Personol fydd yn dynodi targedau dysgu personol a rhesymau dros wneud y cwrs. Ar ddiwedd pob sesiwn byddwch yn cwblhau adolygiad adfyfyriol o'r sgiliau a ddysgwyd gan nodi anawsterau a llwyddiannau. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau na fyddwch yn symud ymlaen i'r cam nesaf nes y byddwch yn teimlo'n hyderus i wneud hynny.

Dilyniant

  • Parhau gyda Llythrennedd Digidol – pan fydd y galw'n uchel, gall y cwrs neu'r grŵp barhau i'r flwyddyn academaidd nesaf
  • Rhoi Sglein ar eich Sgiliau
  • Cyflwyniad i Fyd Gwaith
  • Dychwelyd i Ddysgu
  • Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach
  • Sgiliau TG ar gyfer y Gweithle

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau