Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Prifysgol Bangor
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Bydd pob lefel o'r rhaglen yn cymryd 1 flwyddyn academaidd i'w chwblhau, a cheir 5 modiwl ymhob lefel

Gwnewch gais
×

CIPS Prynu a Chyflenwi

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Yn sgil yr amgylchedd busnes heriol sydd ohoni heddiw mae prynu a chyflenwi wedi dod yn gynyddol bwysig ac mae'r proffesiwn yn chwarae rhan arwyddocaol yng nghynaliadwyedd sefydliad. O'r herwydd, mae swyddogion prynu a chyflenwi, yn enwedig rhai cymwys sydd wedi'u hyfforddi'n dda, yn ased angenrheidiol a gwerthfawr i unrhyw gwmni.

Mae CIPS yn cynnig cymwysterau proffesiynol, hyd at Lefel Gradd Anrhydedd, a gydnabyddir yn rhyngwladol. Maent yn hynod ymarferol ac yr un mor berthnasol i'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Drwy ddilyn rhaglen CIPS yn y Ganolfan Rheolaeth, gall gweithwyr ym maes caffael feithrin sgiliau, gallu a hygrededd o safon uchel. Mae'r rhaglen yn cynnwys cymwysterau lefelau 2, 3, 4, 5 a 6 a gellir ei theilwra ar gyfer unigolion sy'n dechrau yn y maes neu rai sydd wedi gweithio yn y maes ers peth amser. Bydd gan eich tiwtoriaid brofiad o weithio ym maes caffael a busnes, a gallant eich hyfforddi, eich cefnogi a'ch arwain drwy eich cymhwyster.

Gofynion mynediad

  • Profiad o gaffael ar lefel 4 neu HND/Gradd Sylfaen

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Darlithoedd
  • Gwaith grŵp
  • Sesiynau ymarferol

Asesiad

  • Arholiad ysgrifenedig

Dilyniant

  • Dilyniant o Lefel 4 i Lefel 6
  • Ar ôl MCIPS Lefel 4, mynediad LLM mewn i Meistr yn y Gyfraith

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth