Dyfarniad Lefel 6 CIM mewn Optimeiddio Taith y Cwsmer
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Ar-lein
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
Cyflwynir y modiwl hwn yn wythnosol, fel arfer ar fore Iau, am wyth wythnos.
Cynigir tri chyfle i ddechrau'r cwrs bob blwyddyn, ym mis Medi, mis Ionawr a mis Ebrill.
Dyfarniad Lefel 6 CIM mewn Optimeiddio Taith y Cwsmer
Proffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r modiwl hwn yn darparu fframwaith strategol i ddeall sut i werthuso'r camau yn nhaith y cwsmer a nodi dull sy'n seiliedig ar ddata i gyflawni teithiau wedi'u teilwra'n ddi-dor sy'n sicrhau boddhad cwsmeriaid ac yn annog eu teyrngarwch a'u hysgogi i rannu eu canmoliaeth.
Bydd ymgeiswyr yn ystyried tri deilliant allweddol:
1. Datblygu gwybodaeth a sgiliau lefel uwch i greu map taith y cwsmer.
2. Deall pam a sut i gasglu data i lywio gwelliannau i daith y cwsmer.
3. Darparu dealltwriaeth i alluogi dadansoddi data cymhleth i adnabod patrymau, tueddiadau a mewnwelediadau i uchafu perfformiad a chreu teithiau wedi'u teilwra.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi hyder i chi ac yn gwella eich gwybodaeth farchnata fel Rheolwr Marchnata, neu'n eich helpu i sicrhau swydd Rheolwr Marchnata.
Gofynion mynediad
Mae angen un neu ragor o'r canlynol i gwblhau cymhwyster Lefel 6:
- Cymhwyster Lefel 4 CIM neu gymhwyster cyfatebol perthnasol.
- Prentisiaeth Lefel 4 mewn Marchnata
- Gradd Baglor neu radd Meistr, gyda thraean o'r credydau wedi'u seilio ar faes marchnata.
- Profiad proffesiynol (awgrymir dwy flynedd o brofiad marchnata mewn swydd weithredol).
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs trwy wersi ar-lein a arweinir gan diwtor. Byddwch yn cael mynediad i'r gwersi hyn trwy Google Meet.
Cewch eich annog i rannu syniadau ac i gymryd rhan mewn gwaith grŵp trwy sesiynau rhyngweithiol.
Asesiad
Asesir y cymhwyster hwn ar-lein trwy arholiad amlddewis. Cewch sefyll yr arholiadau gartref neu yn eich gweithle.
Mae'r asesiadau'n bodloni anghenion cyflogwyr, yn ymarferol, yn berthnasol ac yn addas i fusnesau.
Dilyniant
Gallwch barhau i astudio Dyfarniadau Lefel 6 eraill i ennill y cymhwyster Diploma.
Edrychwch ar y dudalen cymhwyster Diploma Lefel 6 i weld pa fodiwlau sydd angen i chi eu cwblhau i ennill y cymhwyster hwn.
Bydd y cwrs hwn yn helpu'r rhai sydd â phrofiad marchnata i gael dyrchafiad i fod yn rheolwr marchnata.
Bydd yn eich helpu i sicrhau cyfleoedd gyrfa lefel uwch mewn sefydliadau.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol, Cyrsiau Byr
Lefel:
6
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Sefydliad dyfarnu: Chartered Institute of Marketing
Sefydliad dyfarnu
