Tystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIM mewn Marchnata Proffesiynol a Digidol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Ar-lein
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
I gwblhau'r cymhwyster, byddwch yn dilyn dau fodiwl:
Hanfodion Marchnata
Cynnwys a Sianeli Marchnata
Cynhelir y rhain am 3 awr yr wythnos am 8 wythnos, ar fore Gwener fel arfer. Fe'u hasesir ar-lein trwy arholiad amlddewis.
Tystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIM mewn Marchnata Proffesiynol a DigidolProffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
I ennill y cymhwyster rhaid cwblhau dau fodiwl (sydd hefyd yn Ddyfarniadau unigol):
Hanfodion marchnata: Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn bydd gan ddysgwyr wybodaeth a dealltwriaeth am bwrpas a swyddogaeth marchnata mewn sefydliadau a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr a busnesau.
Cynnwys a sianeli marchnata: Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r math o gynnwys y gall marchnatwyr ei greu, yn ogystal â'r dulliau a all gael eu defnyddio i'w gyhoeddi a'i hyrwyddo.
Mae'r cwrs yn addas i weithwyr marchnata newydd a'r sawl sy'n gobeithio gweithio yn y maes.
Efallai eich bod yn dechrau eich busnes eich hun neu'n awyddus i newid gyrfa.
Gall y cwrs hwn eich helpu i gychwyn eich taith farchnata.
Gofynion mynediad
Nid oes angen profiad marchnata blaenorol.
Mae cymhwyster Lefel 3 CIM yn addas i weithwyr marchnata newydd a'r sawl sy'n gobeithio gweithio yn y maes, ac yn rhoi sylfaen i chi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs trwy wersi ar-lein a arweinir gan diwtor. Byddwch yn cael mynediad i'r gwersi hyn trwy Google Meet.
Cewch eich annog i rannu syniadau ac i gymryd rhan mewn gwaith grŵp trwy sesiynau rhyngweithiol.
Asesiad
Asesir y cymhwyster hwn ar-lein trwy arholiadau amlddewis. Cewch sefyll yr arholiadau gartref neu yn eich gweithle.
Mae'r asesiadau'n bodloni anghenion cyflogwyr, yn ymarferol, yn berthnasol ac yn addas i fusnesau.
Dilyniant
Gall y cymhwyster eich helpu i gael swydd farchnata mewn sefydliad, gan fod cyflogwyr yn chwilio am gymwysterau ymarferol wrth ddewis gweithwyr newydd.
Bydd y cymhwyster hwn yn helpu busnesau newydd, neu fusnesau bach neu ganolig, i ganfod cwsmeriaid newydd a datblygu eu busnes.
Mae cwblhau'r cwrs hwn yn eich galluogi i symud ymlaen i gymwysterau Lefel 4.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol, Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli