Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant⁠

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:
    • Yr elfen graidd: 9 mis
    • Yr elfen ymarferol: 9 mis

    (os gwneir hwy gyda'i gilydd i ennill y cymhwyster llawn = 18 mis)

Cofrestrwch
×

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant⁠

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bwriad y cwrs hwn yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i unigolion sydd un ai'n gweithio neu am weithio yn y sector gofal plant.

Mae dwy ran i'r cwrs, sef yr elfen graidd sy'n seiliedig ar theori a'r elfen ymarferol. Mae'n bosibl cwblhau'r elfen graidd os nad yw'r unigolyn yn gweithio mewn amgylchedd gofal plant.

Gofynion mynediad

Rhaid i ddarpar ddysgwyr ddod i gyfweliad a bod un ai'n gwirfoddoli neu'n gweithio mewn lleoliad gofal plant (ar gyfer lefel 2).

Ar gyfer lefel 3 rhaid bod mewn swydd oruchwyliol mewn amgylchedd gofal plant.

Rhaid wrth sgiliau TGCh a sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig da.

Canlyniadau E3 uchel ym mhrawf sgrinio Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST).

Cyflwyniad

Mae'r elfen graidd (theori) yn cynnwys rhywfaint o ddysgu ar-lein.

Asesiad

Mae'r elfen graidd yn cynnwys 4 arholiad a phortffolio gwaith manwl sy'n cynnwys adfyfyriadau.

Ymarfer – mae angen o leiaf 6 arsylwad a fydd yn golygu cynllunio, cael eich arsylwi ac adfyfyrio ar eich gwaith.

Rhaid i'r rhai sy'n astudio ar lefel 3 arsylwi plant.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs lefel 2 mae'n bosibl mynd ymlaen i lefel 3 (cyn belled â bod gennych swydd oruchwyliol).

Yna mae'n bosibl i unigolion fynd ymlaen i gwblhau'r cymhwyster theori lefel 4 mewn arwain a rheoli ym maes gofal plant, a hyd yn oed i lefel 5.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Datblygiad ac Addysg Plant

Datblygiad ac Addysg Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Datblygiad ac Addysg Plant

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth